Ymateb cymysg i gynnig Brexit Jeremy Corbyn

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y gwrthbleidiau na fyddai Jeremy Corbyn yn sicrhau cefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn wedi ysgrifennu at arweinwyr rhai o bleidiau eraill San Steffan gyda chynllun i atal Brexit heb gytundeb.

Mae'r llythyr yn ceisio cefnogaeth i bleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth.

Dywed mai "ein blaenoriaeth ddylai fod i gydweithio yn y senedd er mwyn atal Brexit heb gytundeb" gan orfodi Etholiad Cyffredinol ac yna refferendwm arall.

Ond mae nifer o'r gwrthbleidiau wedi dweud mai refferendwm ddylai ddod gyntaf, gydag Etholiad Cyffredinol i ddilyn.

Os fyddai pleidlais diffyg hyder Mr Corbyn yn llwyddo, yna byddai'n ceisio ffurfio llywodraeth dros dro gyda'r bwriad o alw Etholiad Cyffredinol, ac ymestyn Erthygl 50 er mwyn ei gynnal.

Mae ei lythyr yn gorffen drwy ddweud y byddai Llafur yn ymgyrchu yn yr etholiad i gynnal refferendwm arall ar dermau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys dewis i aros yn yr UE.

Ond mae Ms Swinson ac arweinydd Change UK, Anna Soubry wedi gwrthod y cynllun, ar y sail na fyddai'n sicrhau mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin, tra mae Mr Blackford a Ms Lucas yn dweud bod angen canolbwyntio ar atal Brexit heb gytundeb cyn etholiad cyffredinol.

'Siomedig'

Wrth ymateb i'r llythyr ar raglen Post Cyntaf, dywedodd Liz Saville Roberts ar ran Plaid Cymru: "Rydym yn agored i'r syniad o lywodraeth 'undod'.

"Does dim gwahaniaeth pwy fydd yn arwain, ond y flaenoriaeth fydd atal Brexit - mae hynny'n golygu ymestyn Erthygl 50, cynnal refferendwm a chanslo Brexit.

"Mae'n siomedig felly nad yw Mr Corbyn yn gweld ei ffordd yn glir i fynd am y dewis gorau o blaid Ewrop, sef refferendwm yn gyntaf gydag Etholiad Cyffredinol i ddilyn.

"Os oes rhaid, fe ddylai Mr Corbyn gamu o'r neilltu er mwyn sicrhau bod refferendwm yn cael ei gynnal. Nid mater o pwy, ond sut y gallwn ni atal Brexit.

"Mae'r argyfwng sydd ohoni yn mynd y tu hwnt i bersonoliaethau. Rydym ni wedi dangos beth all cydweithio ar draws y pleidiau gyflawni. Y cwestiwn yw, a all Llafur wneud yr un modd?"

Disgrifiad,

Byddai Etholiad Cyffredinol 'yn creu mwy o oedi heb gynnig datrysiad', yn ôl Ms Saville Roberts

Ychwanegodd ei bod hi'n "barod iawn" i drafod y syniad ymhellach gyda Mr Corbyn.

"Mae Plaid Cymru yn agored iawn i gydweithio at bwrpas... os ydy'r Blaid Lafur o ddifrif am gymryd y camau i warchod y cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli.

"Dwi'n falch bo' nhw wedi symud i lle mae nhw bellach, ond mae'n rhaid iddyn nhw gymryd y camau olaf."

Wrth ymateb i gwestiwn am gytundeb posib rhwng Plaid Cymru, y Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol, dywedodd Ms Saville Roberts nad oes "penderfyniad uniongyrchol" wedi ei wneud ar y mater.

"Ond o ran yr egwyddor o weithio gyda'n gilydd ar adeg lle mae'r Blaid Geidwadol wedi dwyn syniadau a methodoleg Brexit poblogaidd, mae'n rhaid i ni gydweithio i roi'r ochr arall."

'Cam i'r cyfeiriad cywir'

Dywedodd AS Aberconwy, Guto Bebb wrth BBC Radio Cymru: "Mae'r ffaith bod y Blaid Lafur yn ymestyn tuag at aelodau eraill o fewn Tŷ'r Cyffredin sydd o'r farn y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn gamgymeriad dybryd yn gam i'r cyfeiriad cywir.

"Ond dydw i ddim yn meddwl mai'r cynllun hwn fydd yn dod i rym os ydy gadael heb gytundeb yn mynd i gael ei stopio... yn syml iawn dydy Jeremy Corbyn ddim 'efo hyder digon o aelodau'r Blaid Lafur, heb sôn am weddill Tŷ'r Cyffredin."

Guto Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto Bebb wedi bod yn AS dros Aberconwy ers Mai 2010

Roedd ymateb AS Ceidwadol Mynwy, David Davies yn fwy chwyrn, wrth iddo drydar bod cynllun Mr Corbyn fe "coup d'etat o'r fath sy'n cael ffafrio gan yr unbeniaid Marcsaidd mewn gweriniaethau bananas sy'n ei ysbrydoli".

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies, mae'r cynllun yn "ddiangen ac annemocrataidd" ac mae Mr Johnson "yn gweithio'n galed i sicrhau cytundeb da".

Ychwanegodd bod "ymddygiad ymhongar Mr Corbyn yn cyflawni dim ond amharu rhagor ar drafodaethau ac ymestyn y cyfnod hwn o ansicrwydd".

Dywedodd AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock nad yw'n glir faint o ASau fyddai'n cefnogi Mr Corbyn fel prif weinidog dros dro er mwyn ceisio atal Brexit digytundeb, ond mai AS Llafur ddylai fod yn brif weinidog dros dro petai Mr Johnson yn colli cynnig diffyg hyder.

"Yr opsiwn mwyaf dymunol fyddai cael gwared ar lywodraeth Boris Johnson, cael Jeremy Corbyn i mewn, a mwy o amser ac ail-drafod ar sail cynllun clir," meddai.

"Ond os nad yw Plan A yn gweithio, rhaid bod yn barod gyda Plan B a Plan C, ac os nad ydy syniadau eraill yn gweithio yna fydd yn ddewis o ddau, sef y Bil Ymadael a gadael heb gytundeb."

Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod angen i "arweinydd llywodraeth argyfwng fod yn berson gyda phrofiad, cefnogaeth drawsbleidiol a dim awydd i arwain llywodraeth hirdymor" a bod hi'n "amlwg nad Jeremy Corbyn yw'r person yna".