Apêl i ASau Llafur 'call' atal Brexit digytundeb

  • Cyhoeddwyd
Jonathan Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jonathan Edwards bod y Blaid Lafur yn cynyddu'r risg o ddim cytundeb trwy wrthod gweithio'n drawsbleidiol

Dylai "Aelodau Seneddol Llafur call" roi budd y blaid o'r neilltu a chydweithio ag ASau'r gwrthbleidiau eraill i atal Brexit heb gytundeb, yn ôl un o ASau Plaid Cymru.

Mae Canghellor yr wrthblaid, John McDonnell wedi dweud na fyddai Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn ildio'r awenau ar gais y gwrthbleidiau eraill er mwyn ffurfio cynghrair "undod cenedlaethol" yn San Steffan.

Ond yn ôl AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae'r Blaid Lafur yn cynyddu'r risg o Brexit heb gytundeb trwy "wrthod" cydweithio'n drawsbleidiol.

Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson yn mynnu y bydd y DU yn gadael yr UE ar 31 Hydref, boed yna gytundeb ai peidio.

Cafodd mwyafrif ei lywodraeth, gyda chefnogaeth y DUP, yn y Senedd ei dorri i un wedi i'r Ceidwadwyr golli sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed i'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn isetholiad ddechrau'r mis.

Mae nifer o ASau Ceidwadol wedi datgan bwriad i wneud popeth posib i osgoi Brexit digytundeb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth John McDonnell ei sylwadau yn ystod Gŵyl Ymylol Caeredin

Dywedodd Mr McDonnell y byddai ef ei hun "yn troi pob carreg" i osgoi gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ond fyddai Mr Corbyn "byth" yn camu'n ôl fel amod i ffurfio clymblaid a cheisio gohirio dyddiad ymadael yr UE.

"Wneith hynny ddim digwydd. Rwy'n meddwl bydden ni'n ffurfio llywodraeth leiafrifol, ceisio gweithredu ein maniffesto a disgwyl i'r gwrthbleidiau eraill ac ASau eraill i bleidleisio dros y polisïau hynny ac os ddim fe awn ni'n ôl i'r wlad [a chael etholiad cyffredinol]."

Aneglur

Yn ôl Mr Edwards, mae llywodraeth Mr Johnson "â'i fryd ar ddefnyddio unrhyw ystryw angenrheidiol i redeg y cloc i lawr".

Mae Plaid Cymru'n rhybuddio y gallai gorfodi etholiad cyffredinol, trwy gael cefnogaeth ASau i gynnig o ddiffyg hyder yn y llywodraeth, arwain at Brexit digytundeb anfwriadol, gan fod hi'n debygol na fyddai'r cyfnod ymgyrchu yn dod i ben cyn 31 Hydref.

"Mae'n gwbl aneglur sut mae Llafur yn cynnig atal [Brexit] dim cytundeb os maen nhw'n gwrthwynebu'r unig ateb posib arall - cynghrair trawsbleidiol dros dro," meddai Mr Edwards.

"Byddai diffyg cytundeb yn cael canlyniadau trychinebus i'r economi, swyddi a'n cymunedau.

"Boed yn gredu eu spin eu hunain neu'n twyllo eu hunain, mae Llafur yn cynyddu'r risg o ddim cytundeb trwy wrthod gweithio'n drawsbleidiol."