Plaid Cymru yn galw am alw seneddau Cymru a'r DU yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Adam Price a Liz Saville Roberts ASFfynhonnell y llun, Plaid Cymru/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price a Liz Saville Roberts yn cefnogi cael refferendwm arall ar Ewrop

Mae aelodau Plaid Cymru wedi galw am alw Seneddau Cymru a'r DU yn ôl ar frys er mwyn trafod y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae arweinydd y blaid, Adam Price a Liz Saville Roberts AS wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dweud bod angen amser i ACau allu trafod y mater yn llawn.

Ar hyn o bryd mae disgwyl i'r Seneddau ddychwelyd ar 3 Medi.

Ond yn ôl Mr Price a Ms Saville Roberts mae hi'n "hanfodol" eu bod nhw'n cwrdd cyn hynny gan fod "Brexit heb gytundeb yn edrych yn fwy tebygol bob dydd".

Mae'r llythyr yn honni bod pendantrwydd Mr Johnson i beidio trafod cytundeb newydd oni bai bod y backstop yn cael ei waredu yn ei gwneud hi'n debygol iawn y bydd y DU yn gadael heb gytundeb ar 31 Hydref.

A hynny gan fod yr UE eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n agored i drafodaethau pellach ynglŷn â'r backstop.

'Argyfwng'

Ychwanegodd y ddau yn y llythyr: "Mae hi'n edrych yn fwy tebygol y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar 31 Hydref.

"Pe bai hynny'n digwydd bydd canlyniadau ofnadwy o ran swyddi yng Nghymru a'r economi ehangach - yn enwedig yn y diwydiant cynhyrchu a'r sector amaeth.

"Byddai prinder bwyd, meddyginiaeth ac oedi yn ein porthladdoedd hefyd yn bosib.

"Mae hi'n hanfodol bod Senedd San Steffan yn cael ei alw'n ôl cyn 3 Medi fel bod cyfle i ddarganfod beth yw barn ddemocrataidd yr aelodau ynglŷn â gadael heb gytundeb.

"Dyma pam ein bod ni'n gofyn i chi ymuno â ni wrth alw'r Seneddau 'nôl ar frys er mwyn trafod yr argyfwng mwyaf mae Cymru a'r DU erioed wedi ei weld mewn amser o heddwch."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er fod y Cynulliad yn ystod toriad, dyw hynny ddim yn wir am Lywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i weithio'n galed bob dydd i helpu i atal Brexit heb gytundeb.

"Rydym wedi parhau i godi ein pryderon yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog a gweinidogion Llywodraeth y DU dros doriad yr haf ac wedi cynyddu ein gwaith ar gynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb. Mater i'r Llywydd yw galw'r Senedd yn ôl."