Dyfarnwr criced gafodd ei daro gan bêl wedi marw

  • Cyhoeddwyd
John WilliamsFfynhonnell y llun, Western Telegraph

Mae dyfarnwr criced gafodd ei daro gan bêl yn ystod gêm yn Sir Benfro wedi marw.

Cafodd John Williams, 80, ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad mewn gêm rhwng Arberth a Phenfro fis diwethaf.

Cafodd Mr Williams, o Hundleton yn Sir Benfro, ei roi mewn coma gan feddygon oherwydd difrifoldeb ei anafiadau.

Cafodd ei drin yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd cyn i feddygon ei symud i Ysbyty Llwynhelyg yn ddiweddarach.

'Trist iawn, iawn'

Ar Twitter, dywedodd Clwb Criced Sir Benfro bod Mr Williams wedi marw gyda'i deulu wrth ei ochr.

Dywedodd y dyfarnwr arall yn ystod y gêm bod Mr Williams yn "ŵr bonheddig o safbwynt criced, ac roedd yn rhoi llawer o'i amser i'r gamp".

Ychwanegodd Robert Simons, oedd yn adnabod Mr Williams ers rhai blynyddoedd: "Mae'n drist iawn, iawn.

"Byddai holl gymuned criced Sir Benfro yn dweud yr un fath amdano. Does dim llawer ohonyn nhw o gwmpas. Dyn rhyfeddol."