Marwolaeth Abertawe: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn 54 oed yn Abertawe fis Gorffennaf wedi cyhuddo dyn o'i lofruddio.
Cafodd Mark Bloomfield ei ddarganfod ar y Stryd Fawr yn Abertawe ar 18 Gorffennaf, ond bu farw yn yr ysbyty ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
Cadarnhaodd Heddlu'r De fod Colin Thomas Payne, 61, o Abertawe wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth a'i fod wedi cael ei ddychwelyd i'r ddalfa.
Roedd Mr Payne eisoes wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol mewn cysylltiad â'r achos.
'Gwaith elusennol'
Pan ddaeth y newyddion am ei farwolaeth dywedodd teulu Mr Bloomfield, sydd yn wreiddiol o Stratford Upon Avon, ei fod wedi sicrhau 'gwaddol' ledled y byd drwy ei waith elusennol.
Fe gadarnhaodd y teulu hefyd eu bod nhw wedi caniatáu iddo roi ei organau i eraill.
Dywedodd y Ditectif Prif Gwnstabl Darren George: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl ar y Stryd Fawr a thu fewn i dafarn y Full Moon adeg yr ymosodiad am 15:10 ar ddydd Iau, 18 Gorffennaf, ac mae nifer dal heb gysylltu â ni.
"Rydyn ni'n erfyn ar unrhyw un a oedd yn yr ardal honno i gysylltu â ni, hyd yn oed os nad oeddech chi'n credu eich bod chi wedi gweld unrhyw beth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2019