Menyw dwyllodd elusen briodasol yn osgoi carchar

  • Cyhoeddwyd
Carla EvansFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carla Evans wedi dweud mai dim ond misoedd oedd ganddi i fyw

Mae menyw wnaeth ddweud celwydd am ei hiechyd er mwyn derbyn rhoddion priodasol wedi cael ei dedfrydu i flwyddyn o garchar wedi'i ohirio.

Dywedodd y barnwr bod Carla Louise Evans, 29 wedi cyflawni "twyll creulon ar elusen" ar ôl iddi ddweud fod ganddi ganser er mwyn derbyn rhoddion tuag at ei phriodas.

Fe gysylltodd Evans gydag elusen Wish for a Wedding gan ddweud fod ganddi ganser fyddai'n ei lladd a methiant ar ei arennau a'r iau er mwyn sicrhau seremoni ei breuddwydion.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd nad oedd Evans yn dioddef o unrhyw un o'r cyflyron a'i bod wedi ffugio llofnod meddyg er mwyn twyllo'r elusen.

Dim ond £500 oedd Evans wedi gorfod ei dalu tuag at y seremoni, ac roedd yr elusen yn cyfrannu gweddill yr arian er mwyn trefnu'r briodas gwerth £15,000.

'Twyllodrus'

Dywedodd Evans wrth un o weithwyr yr elusen ei bod eisiau ailadrodd ei haddunedau priodasol, 10 mlynedd ers iddi briodi ei gŵr, a hynny "am nad oedd ganddi lawer o amser i fyw".

Yn dilyn cais i anfon llythyr o dystiolaeth ynglŷn â'i chyflyrau at yr elusen, roedd staff yn amheus wedi iddyn nhw dderbyn y llythyr ffug oedd wedi'i arwyddo.

Roedd Evans wedi ffugio llofnod wrolegydd o Ysbyty Brenhinol Gwent, Adam Carter, ar y ddogfen.

Fe blediodd Evans yn euog i gyhuddiad o dwyll ym mis Tachwedd 2018.

Yn ogystal â dedfryd o flwyddyn yn y carchar wedi'i ohirio am 15 mis, bydd yn rhaid i Evans hefyd gyflawni gwerth 120 awr o waith yn y gymuned a thalu dirwy o £340.

Wrth ei dedfrydu dywedodd y barnwr Jeremy Jenkins fod Evans yn fenyw "ddrwg a thwyllodrus sydd wedi cyflawni trosedd erchyll".