Gwenno Saunders i gael ei derbyn i Orsedd Cernyw

  • Cyhoeddwyd
Gwenno SaundersFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Gwenno Saunders yn cael ei derbyn i'r Orsedd yng Nghernyw eleni.

Cafodd y gantores o Gaerdydd, sy'n siarad Cernyweg, ei henwebu am ei chyfraniad i'r iaith oherwydd ei gwaith cerddorol ac yn y cyfryngau.

Yn 2018 fe gyhoeddodd albwm Cernyweg, Le Kov, sydd wedi cael canmoliaeth uchel ac yn un o'r rhesymau pam fod cynnydd wedi bod yn y nifer wnaeth sefyll arholiadau Cernyweg yn yr un flwyddyn.

11 o bobl fydd yn cael eu hurddo i Orsedd y Beirdd ym mis Medi gyda dau ohonynt, gan gynnwys Gwenno, yn dod o du allan i Gernyw.

Cafodd un aelod ei urddo ym mis Mehefin mewn seremoni arbennig oherwydd gwaeledd, ond bu farw'r Parchedig Julyan Drew fis diwethaf.

Dathlu diwylliant

Cafodd yr Orsedd - sy'n dathlu 90 mlynedd ers ei bodolaeth eleni - ei sefydlu er mwyn dathlu'r diwylliant Celtaidd yng Nghernyw.

Bydd seremoni i'r aelodau newydd yn ystod Gŵyl Gorsedh Kernow Esedhvos ddydd Sadwrn, 7 Medi yn nhref St Just yn Penwith.

Mae'r wŷl pedwar diwrnod yn cynnwys digwyddiadau llenyddol, cyngerdd, dawnsio ceilidh, marchnad a chyfle i bobl gael profi'r iaith Gernyweg.

Bydd enwau barddol y rhai sydd wedi eu derbyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni ac mae disgwyl i gynrychiolwyr o Gymru a Llydaw fod yno.

Roedd cynrychiolwyr o Orsedd Cernyw yn bresennol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos diwethaf.