Dyn wedi 'saethu plismon' â gwn taser cyn dianc ar dractor
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod dyn 24 oed wedi dwyn gwn taser plismon a'i saethu yn ei frest, cyn dianc ar dractor yng Ngheredigion.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig ar yr heddwas, PC Dafydd Edwards, ger Synod Inn ym mis Chwefror.
Mae Darryl Matthew Dempsey, sydd o Sussex, yn wynebu saith cyhuddiad gan gynnwys cymryd cerbyd ac ymosod gan achosi niwed corfforol.
Roedd dyn arall, Wayne Dobson, eisoes wedi cyfaddef i'r cyhuddiadau yn ei erbyn mewn gwrandawiad cynharach.
Cyn i'r rheithgor gael eu dewis ddydd Llun, fe wnaeth y barnwr Paul Thomas ddyfarnu nad oedd Mr Dempsey yn y cyflwr iawn i sefyll ei brawf yn dilyn tystiolaeth gan ddau seiciatrydd.
O ganlyniad ni fydd y rheithgor yn penderfynu ar euogrwydd Mr Dempsey, dim ond ai ef oedd wedi cyflawni'r troseddau y mae'n cael eu cyhuddo ohonynt neu beidio.
'Dwyn sawl cerbyd'
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod PC Edwards ar ddyletswydd ar 9 Chwefror pan gafodd neges bod yr heddlu'n chwilio am ddyn o'r enw 'Dempsey' oedd yn gyrru cerbyd Land Rover yn yr ardal.
Fe wnaeth PC Edwards barcio yn Ffostrasol a phan welodd y cerbyd yn mynd heibio dechreuodd ei ddilyn, gan sylwi bod dau berson ynddi a bod un o'r goleuadau ddim yn gweithio.
Pan stopiodd y car fe aeth PC Edwards draw at y ddau a gofyn a oedd yr enw 'Dempsey' yn golygu unrhyw beth iddyn nhw.
Fe wnaeth y ddau neidio allan o'r car, cyn i Mr Dempsey lwyddo i afael yng ngwn taser PC Edwards oedd ar ei felt.

Cafodd y ddau ddyn eu stopio gan PC Edwards yn agos i Synod Inn yng Ngheredigion
Cafodd PC Edwards ei saethu yn ei frest, a dywedodd iddo ddisgyn gan anafu ei ben-glin yn wael, cyn i'r ddau ddyn ddechrau ei gicio.
Dywedodd Jim Davies ar ran yr erlyniad fod Dobson a Mr Dempsey wedyn wedi ceisio dianc yn y car heddlu, ond bod PC Edwards wedi llwyddo i danio chwistrell bupur tuag atynt mewn pryd.
Fe wnaeth y ddau wedyn ddianc ar droed, meddai Mr Davies, cyn dwyn sawl cerbyd wrth iddyn nhw geisio ffoi.
Y cyntaf i gael ei ddwyn oedd tractor oddi ar fferm gyfagos, gafodd ei yrru dros gaeau a thrwy ffensys cyn cael ei adael.
Fe wnaeth y ddau wedyn gymryd Range Rover oddi ar fferm ger Pontsian a'i yrru i Rydlewis, cyn cymryd Volvo a theithio i Aberteifi.
Clywodd y llys bod y ddau wedyn wedi gwahanu, gyda Dobson yn cael ei ddal ar ôl dal tacsi i Gaerfyrddin, tra bod Mr Dempsey wedi llwyddo i osgoi'r swyddogion.
Cafodd ei arestio'n ddiweddarach yn Sussex.
Mae'n wynebu cyhuddiadau o ddefnyddio gwn i atal ymgais i arestio, ymosod gan achosi niwed corfforol, dau gyhuddiad o ddwyn cerbyd, achosi niwed i eiddo, cymryd cerbyd heb awdurdod, a gyrru yn dilyn gwaharddiad.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.