Llong yn dod i'r fei wedi 150 mlynedd dan y dŵr
- Cyhoeddwyd
Bydd mwy a mwy o henebion a gweddillion hanesyddol yn cael eu datgelu wrth i newid hinsawdd achosi tywydd mwy eithafol.
Dyna farn arbenigwr ar ôl i weddillion llong a suddodd oddi ar arfordir gogledd Cymru 150 o flynyddoedd yn ôl ddod i'r fei yn dilyn storm.
Mae coedwig gynhanesyddol a 200 o olion archeolegol hefyd wedi dod i'r amlwg yn dilyn tywydd eithafol yn y blynyddoedd diweddar.
Yn ôl yr archeolegydd Dr Paul Belford gallwn ddisgwyl gweld mwy a mwy o hyn wrth i'r byd gynhesu.
'Tywydd eithafol'
Y gred yw mai slŵp 35 tunnell o'r enw Endeavour ydy'r llong ddaeth i'r fei ar draeth Pensarn, a'i bod wedi suddo mewn tywydd garw yn 1854.
Aelod o'r cyhoedd, Mike Hughes, sylwodd ar weddillion y llong 45 troedfedd, wedi storm ym mis Gorffennaf, ac fe gysylltodd ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (YACP).
"Symudodd y tywod yn yr ardal wrth i dywydd stormus greu tonnau enfawr, a datgelu'r llong," meddai Dr Belford, prif weithredwr YACP.
"Byddwn yn gweld mwy a mwy o longddrylliadau a henebion wrth i dywydd eithafol ddod yn fwy cyffredin oherwydd effaith newid hinsawdd.
"Mi fydd darganfyddiadau fel y llongddrylliad yma yn ein helpu ni i ateb cwestiynau o'n gorffennol."
Llwyddodd YACP i wneud arolwg cychwynnol o weddillion y llong ar lanw isel, ond nawr maen nhw'n argymell gwneud ymchwiliad pellach o'r safle er mwyn darganfod mwy.
Dywedodd llefarydd ar ran YACP bod yr Endeavour wedi cael ei hadeiladu yng Nghaer yn 1817, a'i bod wedi treulio'i hoes yn masnachu ar hyd arfordir gogledd Cymru.
"O ran adnabod y llong, yr un mwyaf tebygol o'r llongddrylliadau sydd wedi eu cofnodi yn yr ardal yma ydy'r slŵp Endeavour," meddai.
Suddo mewn storm
Ychwanegodd bod mesuriadau ysgerbwd y llong yn cyd-fynd â disgrifiad o'r Endeavour.
"Cafodd ei dal mewn storm ar 3 Hydref, 1854, a chafodd ei cholli. Ond cafodd pawb oedd ar ei bwrdd eu hachub gan fad achub Y Rhyl."
Roedd y llongddrylliad yn arfer bod o'r golwg dan y dŵr, ond ar ôl i'r storm ddisodli'r tywod, mae'r ysgerbwd yn dod i'r golwg ar lanw isel.
Mae hyn yn codi pryder y bydd y gweddillion yn dirywio'n gyflymach, meddai'r ymddiriedolaeth.
Mae YACP yn gobeithio gwneud arolwg pellach yn y dyfodol, gan ddefnyddio dulliau dendrocronoleg i geisio dyddio'r llong yn fwy manwl.
Daeth coedwig gynhanesyddol i'r fei rhwng Ynyslas a'r Borth yng Ngheredigion yn dilyn Storm Hannah ym mis Mai, a gwelwyd tystiolaeth o nifer o weddillion archeoolegol yn sgil tywydd poeth yn 2018.