'Anodd i ddioddefwyr strôc ifanc ymdopi'n ariannol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Strôc yn 38 oed: Stori Trefor Jones

Mae bron i hanner goroeswyr strôc yng Nghymru sydd o dan 65 oed yn ei gweld hi'n anodd ymdopi'n ariannol.

Yn ôl y Gymdeithas Strôc fe wynebodd 47% o oroeswyr leihad yn eu hincwm a rhagfarn wrth fynd yn ôl i weithio.

Yn ôl un dyn o ardal Porthmadog, wnaeth ddioddef strôc yn 38 oed, mae'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig yn gyffredinol wedi ei theilwra i'r genhedlaeth hŷn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda'r Gymdeithas Strôc er mwyn gwella cyfleusterau ar gyfer goroeswyr.

Mae 70,000 o bobl yn byw gyda sgil effeithiau strôc yng Nghymru, gyda chwarter y rheiny yn oedran gweithio.

'Doeddwn i ddim yn coelio nhw'

Roedd Trevor Pierce Jones o Dremadog yn 38 oed pan gafodd strôc wrth yrru.

"Ges i gur pen mawr wrth ddod at roundabout a wnaeth coes fi stopio gweithio a braich fi," meddai.

"Wnaeth dwy hogan dd'eud wrtha fi bo' fi wedi cael strôc ond doeddwn i ddim yn coelio nhw. Dwi'n rhy ifanc a rhy ffit.

"Wnes i ddeffro pythefnos wedyn yn Lerpwl wedi bod mewn coma."

Ffynhonnell y llun, Trevor Pierce Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trevor Pierce Jones wedi colli saith stôn ers ei gyfnod gyda'r fyddin

Yn ôl Trevor mae "pob dim wedi newid" ers iddo ddioddef strôc.

"Fedrai'm iwsio braich chwith fi o gwbl - mae o jest yn hongian a tydy coes fi ddim yn 100%. Dwi'n cerdded efo ffon.

"Dwi 'di colli fitness fi gyd. Dwi 'di colli tua saith stôn."

Chwilio am waith

Treuliodd Trevor wyth mlynedd yn y fyddin ac wedi hynny bu'n gweithio mewn tafarndai a siopau, ond ers dioddef strôc mae wedi gorfod rhoi'r gorau iddi.

"Dwi'm yn cael dim [cefnogaeth]. Dwi'n cael help gan dad ond mae bob dim 'di gorffen a rhaid i mi dalu amdano ond sgenai'm pres i 'neud hynny.

"Dwi'n edrych am waith. Doeddwn i ddim yn barod [o'r blaen] ond dwi yn rŵan. Dwi'm eisiau eistedd yn y tŷ trwy'r dydd.

"Dwi'm yn meddwl bod lot allan yna yn dangos fod pobl ifanc yn cael strôcs. Mae lot yn meddwl mai pobl hen 'di o, ond mae'n effeithio pawb."

Ddydd Mawrth bu galw gan deulu o Aberpennar, y Gymdeithas Strôc a Phlaid Cymru i'r Llywodraeth osod targedau newydd i'r Gwasanaeth Ambiwlans wrth ymateb i gleifion sy'n cael eu hamau o fod yn cael strôc.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod adolygiad categoreiddio galwadau wedi ei gwblhau, ond bod trafferthion ag argaeledd ambiwlansys yn gallu arwain at oedi i gleifion.