Cyngor Môn yn oedi cynllun ad-drefnu ysgolion

  • Cyhoeddwyd
ysgol syr thomas jonesFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r cynlluniau fod wedi golygu cau neu uno Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch

Ni fydd cynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion ar Ynys Môn yn symud ymlaen tan i sawl cynllun tebyg arall gael eu cwblhau, yn ôl y cyngor.

Ym mis Hydref fe wnaeth Cyngor Ynys Môn gyflwyno cynlluniau fyddai wedi golygu uno Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch gydag ysgolion cynradd yn yr ardal, neu ei chau yn gyfan gwbl.

Y bwriad oedd lleihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion ar yr ynys.

Ond yn dilyn trafferthion i gyflawni cynlluniau eraill tebyg, mae swyddogion y cyngor wedi cadarnhau na fydd yn parhau â'r cynllun am y tro.

Roedd cynghorwyr yn bwriadu cau sawl ysgol yn ne'r sir ac uno eraill.

Ond roedd rhaid gwneud tro pedol ar ôl i'r Gweinidog Addysg ymchwilio i gŵyn ynglŷn â'r broses wrth benderfynu cau Ysgol Gymuned Bodffordd.

Dywedodd swyddog o'r cyngor wrth Wasanaeth Democratiaeth Leol y BBC na fyddai ymgynghoriad ar y sefyllfa yn Amlwch yn y flwyddyn academaidd hon.

"Roedd hynny'n dilyn penderfyniad y cyngor sir... i ddileu'r penderfyniad gwreiddiol o 2018 ar ddyfodol y ddarpariaeth addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol," meddai'r swyddog.