Prif weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Allison Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Allison Williams ymddiswyddo ar 20 Awst

Mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi ymddiswyddo ar ôl wyth mlynedd yn y rôl.

Daeth cadarnhad ym mis Mehefin fod Allison Williams ar "gyfnod estynedig o absenoldeb salwch".

Fe ddaeth hynny wedi i wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd gael eu rhoi dan fesurau arbennig yn dilyn nifer o achosion difrifol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, yr Athro Marcus Longley fod Ms Williams wedi ymddiswyddo ar 20 Awst.

Dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Sharon Hopkins sydd wedi bod yn brif weithredwr Cwm Taf Morgannwg dros dro ers i Ms Williams fod yn absennol.

'Ymroddiad'

Mewn datganiad fe ddiolchodd yr Athro Longley i Ms Williams am ei "hymroddiad i'r sefydliad dros y degawd diwethaf ac rydym yn dymuno'n dda iddi at y dyfodol".

Cafodd tîm adolygu annibynnol eu galw yn yr hydref y llynedd yn sgil pryderon am farwolaethau nifer o fabanod yn ysbytai'r bwrdd iechyd.

Roedd yr adolygiad yn nodi bod menywod wedi cael "profiadau gofidus a gofal gwael".

Fe wnaeth Ms Williams ymddiheuro yn dilyn yr adroddiad, gan ddweud ei bod hi'n "flin iawn am y methiannau".

'Y peth cywir i'w wneud'

Dywedodd AC Ceidwadol Canol De Cymru, Andrew RT Davies nad oedd ymddiswyddiad Ms Williams yn syndod "o ystyried y sgandal ddiweddar".

Ychwanegodd AC Llafur Pontypridd, Mick Antoniw mae ymddiswyddo oedd "y peth cywir i'w wneud".

Dywedodd AC Plaid Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, Helen Mary Jones ei bod yn "falch o glywed" am yr ymddiswyddiad, a bod yn rhaid i Ms Williams fod yn "atebol am ei methiannau".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "mater i Fwrdd Iechyd Cwm Taf" yw ymddiswyddiad Ms Williams.