Apêl am wybodaeth wedi dau ladrad arfog yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Rhydychen yn gyntaf am 09:10 y bore i adroddiadau o ladrad arfog.

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn dau adroddiad o ladrad arfog yn Abertawe fore Sadwrn.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Rhydychen yn gyntaf am 09:10 y bore i adroddiadau o ladrad arfog.

Mae un dyn wedi'i gludo i'r ysbyty i dderbyn triniaeth ar ôl cael ei fygwth gan ddyn wnaeth ffoi gyda bocs llawn arian.

Fe ddigwyddodd yr ail ddigwyddiad yn siop Londis ar Stryd Norfolk tua 09:12. Fe adawodd un dyn yn waglaw.

Ni chafodd menyw oedd yn y siop ei hanafu yn y digwyddiad.

Fe gafodd swyddogion arfog eu hanfon i'r ardal ac mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu â'r llu.