Heddlu'n ymchwilio i ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd yn oriau mân fore Llun.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 04:50 i Heol Iscoed yn Llanisien.
Fe gafodd dyn 28 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd am driniaeth.
Mae ei anafiadau yn rhai difrifol, ond credir nad yw ei fywyd mewn perygl.
Wrth i'r ymchwiliad barhau mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu sydd â gwybodaeth amdano i ffonio'r llu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1900314771, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.