Y Gynghrair Genedlaethol: Hartlepool 4-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cafodd Wrecsam eu trechu gan Hartlepool yn y Gynghrair Genedlaethol mewn gêm llawn goliau ym Mharc Victoria brynhawn Llun.
Aeth y Cymry ar y blaen wedi 38 munud, gydag ergyd Akil Wright yn gwyro oddi ar amddiffynnwr i gefn y rhwyd.
Ond o fewn munudau roedd y tîm cartref yn gyfartal wedi i Gime Touré sgorio o du mewn i'r cwrt chwech yn dilyn cic gornel.
Aeth Hartlepool ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner wrth i Liam Noble sgorio o'r smotyn, cyn iddo rwydo eto funudau'n unig yn ddiweddarach er mwyn dyblu eu mantais.
Fe wnaeth Wrecsam ennill cic o'r smotyn eu hunain wedi 55 munud, gyda Bobby Grant yn rhwydo i'w gwneud yn 3-2.
Ond llwyddodd Hartlepool i ymestyn eu mantais unwaith eto o fewn pum munud, gyda Touré yn sgorio ei ail o groesiad gan Noble.
Aeth hi o ddrwg i waeth i'r ymwelwyr, wrth i Jake Lawlor weld cerdyn coch gyda hanner awr yn weddill am drosedd ar Jason Kennedy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2019
- Cyhoeddwyd18 Awst 2019