Pryder am israddio bad achub Cei newydd o 2021 ymlaen

  • Cyhoeddwyd
Ceinewydd

Mae pryder am ddiogelwch ym Mae Ceredigion ynglŷn â'r ffaith na fydd bad achub aml dywydd wedi'i leoli yng Ngheinewydd o 2021 ymlaen.

Pe bai bad achub llai yn cael ei osod yng Ngheinewydd, byddai'r bad achub aml dywydd agosaf rhyw 30 milltir i ffwrdd - yn Y Bermo i'r gogledd neu Abergwaun i'r de.

Gyda llawer o dripiau'n cael eu trefnu i fynd i weld dolffiniaid oddi ar yr arfordir a'r ardal yn dod yn fwyfwy poblogaidd ag ymwelwyr, pryder nifer yw pe bai angen achub rhywun mewn tywydd garw y byddai'n cymryd dros awr i fad achub gyrraedd yn y dyfodol.

Dywedodd yr RNLI ei fod wedi gohirio'r penderfyniad ynglŷn â gosod bad achub llai yng ngorsaf Ceinewydd nes 2021.

'Cam i'r cyfeiriad cywir'

Dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake y byddai israddio bad achub Ceinewydd yn ei gwneud yn beryglus i bysgotwyr yr ardal.

"Ry'n ni'n gwybod bod yr ardal yn lle poblogaidd iawn 'da twristiaid, ond falle'n bwysicaf oll mae Bae Ceredigion yn ardal ble mae pysgota'n digwydd," meddai.

"Mi fyddan nhw'n mynd allan i'r môr, a nhw efallai fyddai'n cael eu hachub amlaf gan y bad achub pob tywydd, ac iddyn nhw mae angen diogelu bod y ddarpariaeth yn parhau."

Disgrifiad o’r llun,

Does dim sicrwydd ar ôl 2021 meddai Huw Williams

Yn ôl Huw Williams o'r criw bad achub yng Ngheinewydd mae'r RNLI wedi penderfynu cadw'r bad achub presennol yn yr orsaf nes 2021, ond nad oes sicrwydd ar ôl hynny.

"Yn wreiddiol y penderfyniad oedd cael gwared ar y cwch yma yn 2020, ond mae'r RNLI wedi cyhoeddi nawr bod y cwch yn mynd i aros fan hyn nes o leiaf 2021," meddai.

"Felly mae o leiaf blwyddyn yn rhagor 'da ni, so mae hynny'n gam i'r cyfeiriad cywir, ond ar hyn o bryd dim ond blwyddyn yn ychwanegol yw e."

'Awr a hanner'

Ei bryder ef yw y bydd hi'n cymryd dros awr i fad achub gyrraedd yr ardal o'r ddau safle agosaf fyddai'n dal â bad achub aml dywydd.

"Mae'r cychod mwyaf agos i'r gogledd yn Y Bermo ac i'r de yn Abergwaun so mae bwlch o 63 o filltiroedd," meddai.

"Os bydde rhywbeth yn digwydd fan hyn a byddai'r bad achub sydd 'da ni ddim yn gallu lansio oherwydd y tywydd, byddai'n cymryd rhyw awr a hanner i'r bad achub gyrraedd.

"Ein gobaith ni nawr yw y bydd yr RNLI yn gwneud adolygiad llawn yn 2021, felly'r hyn fyddwn ni'n ymgyrchu drosto yw gwneud yn siŵr bod yr adolygiad yn un iawn, sy'n cymryd sylw o bob safbwynt."

Ychwanegodd Rhys Tom Jones, sydd hefyd ar y criw yng Ngheinewydd, eu bod "ffaelu deall" sut fyddai'r ardal yn gwneud heb fad achub sy'n gallu lansio ym mhob tywydd.

"Mae cymaint o bobl mas ar y môr ar yr un pryd, a chael cwch sydd ddim yn gallu mynd mas ym mhob storm, ni ffaelu deall e," meddai,

Dywedodd yr RNLI ei fod wedi gohirio'r penderfyniad ynglŷn â gosod bad achub llai yng ngorsaf Ceinewydd nes 2021.

Ychwanegodd y sefydliad ei fod yn parhau i fonitro gweithgaredd ym Mae Ceredigion yn "agos iawn".