Rhyddhau rheithgor yn achos llofruddiaeth Cimla
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor wedi cael ei ryddhau yn achos dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn 76 oed yn ei gartref.
Roedd Thomas Carney, 28 oed o Abertawe, yn gwadu llofruddio David Phillips yn ei gartref yng Nghimla, Castell-nedd ar 14 Chwefror.
Yn dilyn trafodaethau cyfreithiol dywedodd y Barnwr Eleri Rees na allai'r achos barhau, ac fe gafodd y rheithgor ei ryddhau rhag ei ddyletswyddau.
Mae disgwyl i'r achos newydd ddechrau ar 24 Chwefror 2020.