'Angen ail-wampio' system dai i'r digartref yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae clinig newydd yng Nghaerdydd, sy'n cynnig cymorth cyfreithiol am ddim i bobl digartref yn y brifddinas, yn galw am newid y system sy'n penderfynu pwy sy'n cael lle yng nghartrefi cymunedol y cyngor.
Gobaith Cardiff Lawyers Care ydy rhoi cymorth i bobl ail-afael yn eu bywydau, a dod o hyd i gartref annibynnol, hirdymor.
Mae'r fenter yn awyddus i wneud y system bresennol yn '"symlach ac yn decach", drwy ddefnyddio technoleg, ac arbenigedd cyfreithiol, er mwyn lleihau amser aros i bobl sy'n awyddus i fyw'n annibynnol.
Cafodd y clinig galw mewn sy'n cael ei gynnal bob pythefnos ei sefydlu ym mis Awst oherwydd cynnydd yn nifer o bobl sy'n byw ar y stryd, neu heb gartref sefydlog.
Sawl ffactor
Mae'n gyfle hefyd i'r 30 o gyfreithwyr ennill profiad yn y maes. Un o'r rheiny ydy Jonathan Williams.
Mae'n dweud bod y rhesymau pam bod pobl yn canfod eu hunain heb gartref yn rhai cymhleth ond bod y gwasanaeth maen nhw'n darparu yn cynnig gobaith.
"Problemau gyda budd-daliadau. Mae Universal Credit yn newydd nawr. Mae iechyd meddwl yn broblem arall mae pobl yn cael.
"Oherwydd pethau fel 'na maen nhw yn ffindio eu hunain ar y stryd ac unwaith maen nhw ar y stryd mae'n anodd dod o'r stryd. Mae 'neud rhywbeth fel yma yn ddechrau newydd iddyn nhw."
Mae'r clinig yn cael ei gynnal mewn lloches dros nos i bobl digartref am resymau penodol, meddai.
"Mae'n anodd i ffindio pobl. 'Smo nhw yn cael ffôn symudol, rhywle i fyw. 'Smo ni yn gallu rhoi rhywbeth yn y post. I neud e yn rhywle fel yma - maen nhw yn gwybod ble i fynd a chael y cyfan maen nhw angen."
Parhau i gynyddu mae nifer y digartref yng Nghaerdydd. Dros gyfnod o dri mis eleni, cafodd 34 o bebyll eu symud o ganol y ddinas.
Mae Andrew Richards o Bontypridd yn ddigartref ers bron i 10 mlynedd.
Bu'n gaeth i heroin am gyfnod, ond mae o bellach yn ceisio gweddnewid ei fywyd.
Gweithio eto
Mae Andrew yn un o'r rhai mae'r clinig yn gobeithio ei helpu. Bellach mae'n byw mewn lloches dros dro ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.
"Dwi wedi stopio defnyddio cyffuriau. Dwi mewn lle efo dyfodol sy'n rhoi methadone i fi. Dwi wedi torri lawr ar y methadone hefyd. Achos hynna dwi wedi bod yn 'neud qualifications am fynd yn ôl i gwaith hefyd.
"Dwi wedi mynd yn ôl i gwaith am 16 awr yr wythnos a dwi eisiau mynd yn ôl llawn amser, dyna beth yw goals fi."
Ar hyn o bryd, mae'r system gartrefu yng Nghaerdydd yn gweithio ar restr 'flaenoriaeth'. Gall hyn gynnwys nifer o ffactorau - plant, defnydd cyffuriau, problemau iechyd.
Ond er mwyn bod ar y rhestr honno, mae'n rhaid mynd i'r swyddfa ac aros i weld swyddog, a gall hynny, yn ôl Andrew, olygu eistedd yno drwy'r dydd.
Mae'n dweud nad ydy Cyngor Caerdydd "yn edrych ar bawb yr un peth" a bod angen parhau i gynnig cymorth i berson digartref, er eu bod nhw'n ennill cyflog, neu'n awyddus i ddychwelyd i'r byd gwaith eto.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae cefnogaeth, cyngor a nifer eang o wasanaethau ar gael i geisio rhoi cymorth i bobl ddigartre' yn y brifddinas.
Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod dau gynllun peilot ar y gweill er mwyn ceisio symud rhagor o bobl o lochesi dros dro i gartrefi annibynnol, hirdymor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2019