Pa fwydydd blasus allwch chi eu hel ar draethau Cymru?
- Cyhoeddwyd
Does dim rhaid mynd yn bell i gael y cynhwysion gorau ar gyfer y bwrdd bwyd yn ôl y fforiwr Craig Evans, sydd â miloedd o bobl yn dilyn ei fideos ohono'n fforio ar lan y môr ar YouTube.
Os ydych chi'n hoffi bwyd môr, mae 'na wledd i'w ddarganfod ar ein traethau a digon o benwythnosau braf ar ôl i fynd i chwilio, meddai.
Ar ôl ichi wneud eich ymchwil i amseroedd y llanw, diogelwch ar eich traeth lleol a gwisgo esgidiau addas rhag pysgod bwyell (weever fish), dyma gyngor Craig i ddechreuwyr am bump peth gallech chi fynd i chwilio amdanyn nhw ar lanw isel.
Pump tip gan Craig Evans
1. Cocos (cockles)
Dyma un o'r pethau mae Craig yn eu casglu amlaf. Eu casglu gyda'i dad yn y Gwendraeth pan oedd yn blentyn a daniodd ei ddiddordeb oes ym mywyd glan y môr.
Rhaid ichi dyrchu yn y tywod amdanyn nhw ac os ydych chi yn y lle iawn, gallwch gael helfa go dda.
2. Cregyn gleision (mussels)
Mae rhain hefyd yn gyffredin a hawdd eu cael, wedi glynu wrth greigiau ar lan y môr.
Ond mae angen gwneud yn siŵr fod y dŵr yn lân wrth gasglu unrhyw gregyn, rhybuddia Craig.
"Os ydych chi'n casglu pethau fel oysters, cockles, cregyn gleision a phethau tebyg mae'n bwysig eu casglu ble mae'r dŵr yn glir a does dim llygredd yno," meddai.
"Ni'n lwcus yng Nghymru, mae lot o'n traethau ni'n glir iawn."
3. Corgimychiaid (prawns)
Dyma anifail arall sy'n rhan arferol o helfa glan môr Craig - mae gorgimychiaid yn byw rhwng y creigiau mewn pyllau glan môr.
Yn wahanol i orgimychiaid, mae perdys (shrimps) yn byw ar y tywod ac i'w cael mewn dŵr bas pan mae'r llanw allan.
4. Ffenigl y môr (samphire)
Peidiwch ag anghofio am y planhigion maethlon sydd i'w cael ar lan y môr chwaith - mae Cymru'n enwog am ei bara lawr, sydd wedi ei wneud o fath o wymon.
Mae ffenigl y môr yn boblogaidd yn rhai o'r bwytai gorau ond mae i'w gael ar ein glannau.
"Mae samphire i'w gael mewn dau fath - rock samphire sy'n byw ar y clogwyni a marsh samphire sy'n byw ar yr aber ble mae mwd," meddai Craig.
5. Helygen y môr (sea buckthorn)
Mae aeron lliw oren y planhigyn yma sy'n tyfu ar dwyni tywod yn eitha' sur ond gydag ychydig o siwgr, mae Craig yn hoffi gwneud saws blasus iawn a llawn maeth ohono.
"Chi'n gallu ei brynu mewn fel health food shops fel diod - mae'n boblogaidd dros y byd ac yn tyfu mewn llefydd fel Siberia, Japan a Gwlad Pwyl."
Gwaith cartref cyn mynd
Wedi cael ei gyflwyno i chwilio am fwyd ar y glannau gan ei dad ac yna mynd ati ei hun i ddysgu popeth allai am amgylchedd morwrol ei ardal, mae Craig nawr yn gobeithio pasio'r wybodaeth honno ymlaen i eraill drwy ei fideos a'r cyrsiau mae'n eu cynnig.
Ei ardal arbenigol ydy'r arfordir o Ben-bre ger Llanelli hyd at Dyddewi yn Sir Benfro.
Cyn mynd i fforio meddai, mae'n bwysig gwybod beth sydd i'w gael a phryd mae'r llanw allan ac yn ddiogel ichi fynd.
"Rhaid ichi gael llyfr gyda lluniau ichi wybod beth chi'n mynd ar ei ôl - mae sawl pysgod, crancod a prôns i'w cael ac mae'n bwysig gwybod beth chi am gasglu," meddai.
"Roedd rhaid i bobl fwyta mas o'r môr ers talwm achos oedd dim arian gyda nhw blynydde nôl ond mae'r wybodaeth wedi mynd ar goll.
"Ganrifoedd yn ôl roedd rhaid i bobl yn y gaeaf fynd i'r môr i gasglu planhigion fel sea beet - 'sdim arall yn tyfu yn y gaeaf a dyna'r unig le i gael fitamin C dros y gaeaf."
Betys arfor yw'r enw yn Gymraeg ac mae'n tyfu'n wyllt ar ein glannau ac yn cael ei gymharu gyda spigoglys (spinach) weithiau.
Octopws a chregyn bylchog
Ymysg yr anifeiliaid erall mae Craig yn eu casglu yn gyson mae wystrys, cyllyll môr (razor clams, y gellir eu casglu drwy roi halen yn eu tyllau) a chrancod.
Yn llai aml, mae wedi dod o hyd i octopws hefyd.
Ond ei hoff beth i'w ddarganfod ar y traeth ydy cragen fylchog (scallop) ac mae'n hoffi eu bwyta heb eu coginio.
"Mae'n anodd eu cael nhw ar y traeth achos maen nhw'n byw dan oboiti 20 troedfedd o ddŵr ond ambell waith ar ôl storm maen nhw'n cael eu taflu ar y traeth."
O'r holl fathau o wymon a morwiail (sea kelp) sydd i'w cael ar lan y môr, ei hoff wymon yw un o'r enw pepper dulse sydd â blas fel truffle a garlleg, meddai Craig. Mae rhuddugl môr (sea radish) hefyd yn blanhigyn y gallwch chi ddod o hyd iddo.
Felly, gwnewch eich gwaith cartref a manteisiwch ar ambell lanw mawr sydd i ddod ym mis Medi 2019.
Hefyd o ddiddordeb: