Llofruddiaeth Y Barri : Cyhuddo pedwar
- Cyhoeddwyd
Mae cyfanswm o bedwar dyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn ifanc yn Y Barri.
Fe wnaeth Peter McCarthy, 36, a Ryan Palmer, 33 ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd dydd Sadwrn.
Gorchmynnwyd cadw'r ddau yn y ddalfa cyn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ar Fedi'r 2il.
Yn ogystal mae'r heddlu wedi cyhuddo Nathan Delafonteine, 32, a Raymond Thompson, 47.
Bydd y ddau yn ymddangos mewn llys ynadon dydd Llun i wynebu'r cyhuddiadau.
Cafwyd hyd i gorff Harry Baker, 17, yn ardal y dociau yn Y Barri dydd Mercher.
Yn ogystal â'r pedwar sydd yn wynebu cyhuddiadau o lofruddiaeth mae ditectifs wedi arestio pedwar person arall.
Cafodd gwraig 38 oed a dyn 21 oed eu rhyddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae ditectifs wedi cyhoeddi hefyd eu bod yn chwilio am ddyn arall, Leon Symons, mewn cysylltiad a'r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â digwyddiad neu ffrae yn ardal ffordd y Mileniwm a Ffordd Caerdydd yn Y Barri rhwng hanner nos a 01:00 bore dydd Mercher.