Arestio chwech o lanciau wedi ymosodiad angheuol

  • Cyhoeddwyd
Mark WinchcombeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Winchcombe o'i anafiadau

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio chwech o lanciau mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 58 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bu farw Mark Winchcombe o ganlyniad i'w anafiadau wedi ymosodiad tua 00:55 fore Sul ar Main Road, Mynachlog Nedd yn Sgiwen.

Mae'r llanciau, dau yn 14 oed a phedwar yn 17 oed, yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio.

Yn y cyfamser, mae'r Ditectif Prif Arolygydd Darren George, sy'n arwain yr ymchwiliad wedi "atgoffa'r cyhoedd o bwysigrwydd peidio â dyfalu ynghylch yr amgylchiadau nac enwi'r bobl maen nhw'n credu sy'n rhan o'r achos" wrth i ymchwiliad yr heddlu fynd rhagddo.

Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod yr ymosodiad wedi digwydd ger tafarn y Smiths Arms, Mynachlog Nedd

Ychwanegodd: "Rwy'n awyddus i siarad ag unrhyw un allai fod wedi gweld y digwyddiad neu oedd yn gyrru ar hyd Main Road Sgiwen rhwng 00:00 ac 01:30 [bore Sul] allai fod â lluniau dash cam."

Mae gofyn i unrhyw un all gynnig gwybodaeth gysylltu â'r heddlu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle heb roi enw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1900322546.