Achos llofruddiaeth Y Barri: Pedwar yn y llys
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i gorff Harry Baker yn ardal y dociau
Mae pedwar dyn wedi bod o flaen llys wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth llanc 17 oed yn Y Barri ym Mro Morgannwg.
Fe wnaeth Peter McCarthy, 36, Ryan Palmer, 33, a Raymond Thompson, 47, y tri o'r Barri, a Nathan Delafonteine, 32 a sydd heb gyfeiriad parhaol, ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Cafwyd hyd i gorff Harry Baker yn oriau man bore Mercher yn ardal y dociau yn Y Barri.
Cafodd y pedwar dyn eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 22 Tachwedd.
10 wedi'u harestio
Yn y cyfamser dywedodd yr heddlu bod dau berson arall wedi eu harestio ddydd Llun ar amheuaeth o lofruddiaeth, gan ddod â'r cyfanswm i 10.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y dyn 21 oed a'r bachgen 16 oed - y ddau o Gaerdydd - yn parhau yn y ddalfa.
Yn ogystal â'r pedwar sydd wedi eu cyhuddo, mae tri dyn wedi eu harestio ac yn parhau yn y ddalfa.
Mae dau berson gafodd eu harestio yn flaenorol wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.