Pryder am gais cynllunio ger Capel Salem yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Capel SalemFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd addolwyr bod Capel Salem a'r fynwent o'i flaen yn llefydd "heddychlon"

Mae pryder ynglŷn â chais cynllunio i droi safle ger capel enwog yng nghefn gwlad Gwynedd yn fan i gasglu anifeiliaid marw.

Capel Salem ger Llanbedr sy'n ymddangos yn llun enwog Sydney Curnow Vosper o 1908, sy'n portreadu Siân Owen yn mynychu'r capel.

Mae cwmni o'r enw Cymru Lan wedi cyflwyno cais i sefydlu safle i gasglu carcasau anifeiliaid rhyw ganllath o'r capel.

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, eu bod wedi gofyn am fwy o fanylion ynglŷn â'r datblygiad arfaethedig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae fersiwn o lun enwog Vosper - Salem - i'w weld tu fewn i'r capel

Dywedodd Catherine Richards, sydd wedi bod yn aelod yng Nghapel Salem ers 70 mlynedd bod nifer o drigolion lleol yn "llwyr wrthwynebu" y cynllun.

"Mae pawb yn dweud eu bod nhw'n hoffi dod i Salem am fod tawelwch yma, ond fydd o ddim mwy os fydd hwnnw'n cael ei ganiatáu," meddai.

"'Da ni'n llwyr wrthwynebu ond dwi ddim yn gwybod be' fydd yn digwydd.

"Wrach fydd rhaid i Salem gau os ydy hwnnw'n cael ei ganiatáu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catherine Richards yn pryderu y byddai'r capel yn cau pe bai'r datblygiad yn cael ei ganiatáu

Yn ôl aelod arall, Haf Meredydd, fe fyddai'r datblygiad yn cael effaith fawr ar awyrgylch y capel a'r fynwent.

"Mae'r llun gan Vosper wedi dod ag enwogrwydd byd eang i'r lle, ond mae'n golygu cymaint i'r gymuned leol hefyd," meddai.

"Mae hi'n dawel yma, mae sŵn yr afon i'w glywed yma, mae'r fynwent mewn lle mor heddychlon.

"I feddwl y bysa 'na lorïau yn dod fyny fan hyn, dio'm yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i mi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Haf Meredydd y byddai'r datblygiad yn cael effaith fawr ar awyrgylch y capel

Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ei fod yn ymwybodol o bryderon ynglŷn â'r cais cynllunio, a'u bod wedi gofyn am fwy o fanylion gan y datblygwr.

Doedd Cymru Lan ddim eisiau gwneud sylw am y cais.