Amddiffyn rhoi cabanau ar safle ysgol 'dros dro'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Godre'r Graig, Ystalyfera
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid cau Ysgol Gynradd Godre'r Graig ger Ystalyfera wythnos cyn diwedd tymor yr haf

Mae rhieni sydd â phlant yn mynd i ysgol gafodd ei chau oherwydd pryderon am dirlithriad yn feirniadol o gynlluniau'r awdurdod lleol ar gyfer y tymor academaidd newydd.

Bu'n rhaid cau Ysgol Gynradd Godre'r Graig ger Ystalyfera wythnos cyn diwedd tymor yr haf am fod y cyngor yn pryderu bod "risg ganolig yn gysylltiedig â thomen chwarel uwchben yr ysgol".

Y tymor hwn bydd disgyblion yn derbyn eu haddysg mewn cabannau ar safle ysgol uwchradd tair milltir i ffwrdd.

Mae arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi amddiffyn ei sylwadau oedd yn cymharu'r sefyllfa gyda thrychinebau megis Aberfan.

"Rydyn ni wedi ail-godi ysgol gyfan mewn chwe wythnos sydd, fy marn i, yn eithriadol i unrhyw awdurdod lleol," meddai Mr Jones.

"Fe wnaethon ni ein gorau glas mewn amodau hynod o anodd, ac mae'r cabannau yma o safon sy'n cael eu defnyddio ledled y wlad ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn.

"Maen nhw wedi cael eu hadnewyddu yn llwyr, fe fyddan nhw'n ddiogel, yn hygyrch, a dyma ydy'r gorau allwn ni ei wneud o dan yr amgylchiadau."

Cymhariaeth 'sarhaus'

Pan ddaeth y cyhoeddiad y byddai'r ysgol yn cau, fe wnaeth Mr Jones gymharu'r sefyllfa gydag Aberfan, lle cafodd 144 o bobl - 116 ohonynt o blant - eu lladd mewn tirlithriad yn 1966.

Ar y pryd dywedodd nifer o bobl yr ardal bod y gymhariaeth yn sarhaus.

Ond mae Mr Jones yn dweud ei fod yn cydnabod bod unrhyw ddigwyddiad ble mae yna sôn am ysgol a pherygl o dirlithriad "yn mynd i ddod â'r lluniau erchyll i'r meddwl unwaith eto ac nid oes modd osgoi'r gymhariaeth".

Bydd gwaith archwilio yn parhau ar safle'r ysgol, ond mae nifer o rieni a phreswylwyr yn agos at adeilad yr ysgol yn honni bod "diffyg gwybodaeth dybryd" ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion 11 o dai wedi gorfod gadael eu cartrefi ar Heol Cyfyng ym Mhant-teg wedi tirlithriad yn 2017

"Rydyn ni wedi cael amser i bwyso a mesur yr asesiad risg, ac mae'r risg yn fach, fach, fach iawn," meddai Ben Holdsworth, sy'n dad i ddau o blant.

"Mewn gwirionedd mae'n dweud bod y risg o dirlithriad yn un ymhob 1,000 o flynyddoedd os ydy'r ceudyllau dŵr yn parhau wedi eu blocio, a hyd yn oed os ydy hynny'n digwydd y risg ydy y gallai gerrig lanio yn y maes chwarae.

"Oni fyddai wedi bod yn ddatrysiad rhatach i glirio llwybr y dŵr, yn hytrach na gwario bron i £500,000 o arian cyhoeddus ar ddatrysiad dros dro?"