Cau ysgol gynradd dros dro yn sgil ofnau am dirlithriad
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol gynradd yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cau dros dro oherwydd pryderon am y posibilrwydd o dirlithriad yn yr ardal.
Yn ôl llythyr a anfonwyd at rieni Ysgol Gynradd Godre'r Graig yn Ystalyfera ddydd Iau, fe benderfynwyd dechrau'r gwyliau haf yn gynnar wedi cyngor gan yr awdurdod lleol.
Dywed y llythyr bod yr awdurdod yn bryderus wedi i ganlyniadau cychwynnol asesiad risg daearegol ddangos bod "risg ganolig yn gysylltiedig â thomen chwarel uwchben yr ysgol".
Mae'r ysgol ryw filltir neu ddwy o Heol Cyfyng, ym Mhant-teg lle mae trigolion 11 o dai wedi gorfod gadael eu cartrefi wedi tirlithriad yn 2017.
Diolgelwch yn flaenoriaeth
Gan gydnabod i'r penderfyniad gael ei wneud yn ddirybudd, mae rheolwyr yr ysgol yn pwysleisio mai diogelwch plant a staff yw'r flaenoriaeth.
Mae'r llythyr yn dweud bod angen "rhagor o waith archwiliadol", gan ychwanegu: "Byddem yn rhoi gwybod i rieni am ddatblygiadau a threfniadau i ail-leoli disgyblion a staff i un safle amgen erbyn mis Medi".
Cafodd cynlluniau eu llunio yn 2017 ynglŷn â'r posibilrwydd o uno'r ysgol â thair ysgol arall i greu un ysgol fawr yn y sir.
Dywedodd arweinydd y cyngor sir, Rob Jones, bod penderfyniad i gau'r ysgol dros dro wedi ei wneud mor fuan ag oedd yn ymarferol bosib wedi iddo dderbyn adroddiad yn amlygu'r risg nos Fercher.
Mae'n cydnabod mai trychineb Aberfan oedd wedi dod i'w feddwl yn y lle cyntaf wrth ddeall bod tomen ger yr ysgol yn un sy'n peri risg ganolig.
"Arbed bywyd sydd wedi bod wrth wraidd yr holl gamau rydyn ni wedi eu cymryd yn yr ardal," meddai, "a phan rydyn ni'n sôn am blant mewn ysgol, mae risg isel, hyd yn oed, yn risg rhy uchel.
"Hyd yn oed petai'r adroddiad wedi nodi risg isel, fyddwn i wedi gweithredu... hyd yn oed yn achos casgliadau cychwynnol, dydw i ddim yn fodlon cymryd unrhyw risg lle mae plant yn y cwestiwn."
Ychwanegodd bod yr asesiad wedi nodi bod yna risg hefyd i dai wrth ymyl yr ysgol a bod arolygon pellach yn debygol o gymryd "rhwng chwech a naw mis".
Mae o leiaf 45 o dirlithriadau wedi eu cofnodi yn yr ardal ers y 1890au, a bu'n rhaid dymchwel nifer o gartrefi dros y blynyddoedd.
Fe lithrodd miloedd o dunnelli o gerrig, pridd a choed i lawr y bryn tu ôl i dai ar Heol Cyfyng yn 2012, cyn i dirlithriadau pellach yn 2017 achosi i rai o'r gerddi ddiflannu.
Fe gyflwynodd y cyngor sir orchymyn yn gorfodi trigolion i adael eu cartrefi gan ddweud y byddai aros yno "yn berygl uniongyrchol i fywyd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018