Ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth dynes yn Pontins

  • Cyhoeddwyd
Pontins PrestatynFfynhonnell y llun, Geograph | Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Pontins ym Mhrestatyn am 07:25 fore Sadwrn

Mae'r heddlu yn parhau i archwilio i amgylchiadau marwolaeth dynes 33 oed o Gaernarfon.

Bu farw Sioned Evans yng ngwersyll Pontins ym Mhrestatyn fore Sadwrn, 31 Awst.

Y gred ydy ei bod wedi cael ataliad ar y galon.

Dywedodd Uwcharolygydd Nick Evans o Heddlu'r Gogledd eu bod yn parhau i archwilio i'r amgylchiadau llawn, ond fe wnaeth gadarnhau bod yr heddlu wedi cael eu galw i ystafell Ms Evans cyn iddi farw.

"Fe wnaeth yr heddlu fynd i ystafell yn Pontins yn gynharach yn y noson," meddai.

"Mae amgylchiadau llawn y farwolaeth, a'r ymweliad cynharach gan blismyn, yn parhau i fod yn destun ymchwiliad... mae hynny i'w ddisgwyl yn dilyn marwolaeth mor drist a chynamserol.

"Fodd bynnag," ychwanegodd, "ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn ymddangos bod unrhyw amgylchiadau amheus."