Ceredigion yn cynnal y rali gyntaf o'i math yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y rali gyntaf o'i math yng Nghymru yn cael ei chynnal yng Ngheredigion dros y penwythnos.
Mae Rali Bae Ceredigion yn defnyddio 43 milltir o ffyrdd cyhoeddus, sy'n cael eu cau i'r cyhoedd ddydd Sul.
Fe ddaw y digwyddiad yn dilyn newidiadau i'r Ddeddf Trafnidiaeth ym mis Ebrill 2018.
Yn ôl y trefnwyr bydd y digwyddiad yn "trawsnewid" y diwydiant ralïo yng Nghymru.
Dywedodd Phil Pugh, cadeirydd Rali Bae Ceredigion, bod rali o'r fath wedi bod yn "freuddwyd bell" ychydig flynyddoedd yn ôl.
"Roedd pump ohonon ni'n eistedd rownd y bwrdd yn trio cynllunio, ac mae wedi bod yn lot o waith," meddai.
"Mae Rali GB yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru, mae hwnnw wedi digwydd ers dros 20 mlynedd.
"Mae'r rali yma yn mynd i drawsnewid y diwydiant, yn enwedig yma yn y canolbarth.
"'Da ni'n trio denu pobl newydd i ddigwyddiad hollol newydd."
Bydd gyrwyr yn cwblhau pedwar cymal, fydd yn cael eu rhedeg ddwywaith.
Mae'r llwybrau yn mynd o Aberystwyth i Bontgoch, Pendam ac Ystumtuen.
Cyn mis Ebrill y llynedd byddai'n rhaid i drefnwyr ralïau sicrhau Deddf Seneddol i gael cau ffyrdd.
Erbyn hyn, mae gan y Gymdeithas Chwaraeon Modur - y corff sy'n gyfrifol am lywodraethu chwaraeon modur ym Mhrydain - yr hawl i roi trwydded i'r rheiny sydd am gau ffyrdd i gynnal rali.
Yn un o'r 120 sy'n cystadlu, mae Osian Pryce o Fachynlleth yn edrych ymlaen at yr "her newydd".
"Mae'r meddwl yn gorfod newid i'r her a pharatoi am ras wahanol," meddai.
"Mae 'na heriau a rhwystrau gwahanol. Does dim byd tebyg iddo.
"Mae'n mynd i fod yn her i'r rheiny sy'n rasio am y tro cyntaf, gan gynnwys fi. Mae'r route yn edrych yn un anodd.
"Dwi wedi cyrraedd y rali, dwi'n dechrau. Dwi'n gobeithio cyrraedd y diwedd hefyd."
Dywedodd yr aelod cabinet dros briffyrdd a gwasanaethau amgylcheddol yng Ngheredigion, y Cynghorydd Dafydd Edwards: "Rydym ni wedi gorfod mynd ati i newid polisïau'r cyngor fel bod y math yma o ralïau yn gallu cael eu cynnal yng Ngheredigion.
"Mae pobl yn yr ardal â chryn ddiddordeb mewn ralïo, ac mae'n beth positif i'r ardal yma gael croesawu'r digwyddiad.
"Mae 120 o geir yn cymryd rhan ac mae hynny'n golygu 240 o gystadleuwyr.
"Mae pob un yn dod â'u criw a'u cefnogwyr, felly mae peth wmbreth o bobl yn mynd i droi lan yn Aberystwyth dros y penwythnos, ac mae hynny ond yn beth da i'r ardal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019