Dau deulu'n galw am wella diogelwch wedi marwolaethau A487
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd pobl sydd wedi marw mewn gwrthdrawiadau ar yr un rhan o'r A487 yng Ngwynedd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn gwella diogelwch yno.
Ym mis Ionawr 2018 bu farw chwaer a merch chwe mis oed Sioned Wyn Williams mewn gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Gellilydan a Maentwrog.
Ar 11 Gorffennaf eleni bu farw Fflur Green, 24, mewn gwrthdrawiad ar yr un rhan o'r ffordd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi rhoi mesurau diogelwch ar waith a'u bod yn ystyried lleihau'r terfyn cyflymder ar y ffordd.
Dywedodd Ms Williams, oedd yn gyrru'r car ym mis Ionawr y llynedd pan fu mewn gwrthdrawiad â lori, bod "pob eiliad o bob dydd mor anodd".
Bu farw ei merch chwe mis oed, Mili Wyn Ginniver a'i chwaer, Anna Wyn Williams, 22, yn y digwyddiad.
"Rydw i dal yma, ond mae fy mywyd wedi mynd," meddai Ms Williams.
"Anna oedd fy chwaer fach ac roeddwn i fod i'w hamddiffyn hi a fy merch, Mili, ond 'wnes i fethu gwneud hynny.
Dywedodd cyfnither Ms Green, Carron Jones: "Pam ei bod hi wedi gorfod cymryd tri bywyd iddyn nhw [Llywodraeth Cymru] wneud unrhyw beth?
"Mae'n rhaid i chi fynd trwy'r profiad o golli rhywun er mwyn deall yr effaith mae'n ei gael, a gallwch chi fyth fod yr un person ar ôl hynny.
"Dyw hi ddim yn deg bod ein teuluoedd wedi gorfod colli cymaint cyn i rywbeth gael ei wneud.
"Oes rhaid i fwy o deuluoedd colli'r rhai maen nhw'n eu caru cyn iddyn nhw sylweddoli bod y ffordd yn beryglus?"
Ychwanegodd Ms Williams nad ydy hi'n deall pam ei bod wedi cymryd cyhyd i gyflwyno newidiadau ar y ffordd.
"Mae pawb eisiau i'r ffordd gael ei gwella," meddai.
"Plîs, plîs - rydyn ni angen i rywbeth gael ei wneud yn sydyn."
Galw am gamerâu
Yn ôl y cynghorydd sir lleol, Elfed Roberts, mae Llywodraeth Cymru wedi addo gosod mwy o arwyddion a rhoi wyneb i atal llithro ar y ffordd.
Ond mae'n mynnu na fyddai hyn yn ddigon, gan ddweud mai camerâu cyflymder parhaol sydd eu hangen yno.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae pob marwolaeth ar ein ffyrdd yn un yn ormod, ac rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau'r bobl fu farw.
"Rydyn ni wedi rhoi mesurau ar waith yn ddiweddar i wella diogelwch yn yr ardal, gan osod arwyddion dros dro a marciau ar y ffordd yn cynghori gyrwyr i arafu.
"Rydym yn parhau i fonitro ac yn ystyried mesurau pellach.
"Mae hyn yn cynnwys cynlluniau ar gyfer terfyn cyflymder o 40mya, ac mae gorchymyn traffig yn mynd rhagddo ar hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2018