Galw am ymateb brys i osgoi damweiniau yng Ngellilydan

  • Cyhoeddwyd
Elfed Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elfed Roberts bod "damweiniau cyson yn digwydd yr un lle"

Mae cynghorydd yn ne Gwynedd yn galw ar yr awdurdodau i ymateb ar frys er mwyn ceisio osgoi damweiniau yn dilyn gwrthdrawiad arall yn ardal Gellilydan nos Iau.

Fis diwethaf bu farw dynes 24 oed ar y rhan o'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog.

Y llynedd cafodd babi chwe mis oes a'i modryb 22 oed eu lladd ar yr un ffordd.

Mae Elfed Roberts yn galw am ymateb brys i'r sefyllfa gyda "damweiniau cyson yn digwydd yr un lle".

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu'n ddifrifol y gwrthdrawiad nos Iau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwneud "mwy o ymdrech" i ddiogelu pobl sy'n gyrru ar y rhan yma o'r A487, yn ôl Elfed Roberts

Dywedodd Mr Roberts ar raglen Post Cyntaf fore Gwener: "Pan ddigwyddodd y ddamwain yma ddoe [ddydd Iau] mae blodau teyrnged y ddamwain ddiwethaf dal i fod yno - maen nhw'n digwydd mor aml â hynny.

"Mae 'na ymgynghoriad rŵan i newid y cyflymdra i 40mya, ond does dim angen ymgynghoriad - mae pobl wedi dweud mewn cyfarfod cyhoeddus fod angen newid.

"Mae'r holl beth yn llusgo yn ei flaen."

'Damweiniau cyson'

Yn dilyn y gwrthdrawiad angheuol ym mis Gorffennaf, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried cyflwyno mwy o fesurau diogelwch yn yr ardal.

"Aethon ni ati yn gynharach eleni i gynnal mesurau i wneud y ffyrdd yn yr ardal yn fwy diogel trwy osod arwyddion a marciau ffordd dros dro yn gofyn i yrwyr arafu," meddai llefarydd.

"Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr ardal ac yn ystyried mesurau eraill yn ôl y gofyn, gan gynnwys bwrw 'mlaen â chynlluniau i ostwng y terfyn cyflymder ar y darn hwn o'r ffordd i 40mya."

Ychwanegodd Mr Roberts: "Dwi wedi dod ar draws pedair damwain, ar wahân i'r ddwy ddamwain erchyll sydd wedi digwydd, ac yn union yr un man.

"Mae 'na ddamweiniau cyson ar y rhan yma o'r ffordd ond mae'n rhaid i ni wneud ymdrech i wneud y ffordd yn saffach a lleihau'r damweiniau sy'n digwydd ar y corneli 'ma."