Angen mwy o bobl ifanc i fod yn weithwyr gofal
- Cyhoeddwyd
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhybuddio y gallai fod 'na argyfwng yn y maes ymhen rhai blynyddoedd oni bai fod rhagor o bobl ifanc yn dewis byd gofal fel gyrfa.
Amcangyfrifir y bydd angen tua 20,000 yn rhagor o ofalwyr ymhen deng mlynedd er mwyn ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau gofal.
Daw hyn wrth i'r boblogaeth sy'n heneiddio a disgwyl hefyd y bydd darparu mwy o ofal plant am ddim yn cynyddu'r galw am bobl i weithio mewn meithrinfeydd.
Gyda thua thraean o'r gweithlu gofal dros 50 oed, mae 'na bryder bod llawer o staff hanfodol bron ag ymddeol.
Yn ôl Malcolm Williams, rheolwr cyfathrebu Gofal Cymdeithasol Cymru, ychydig o bobl ifanc sy'n mentro i'r maes.
"Mae'n bwysig," meddai, "i ni ddenu fwy o bobl ifanc i fewn i weithio mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar er mwyn i ni ateb heriau y dyfodol.
"Ar y foment, mae yna ryw draean o'r gweithlu gofal cymdeithasol dros 50 oed - ac ar y llaw arall mae gyda ni 11% o dan 25 oed - mae angen mwy o gydbwysedd yn y gweithlu a denu mwy o bobl ifanc erbyn yr amser y bydd y gweithwyr hŷn yn ymddeol."
Un o'r 11% o bobl ifanc dan 25 oed sydd wedi dewis gweithio yn y maes ydi Alaw Paul o Borthmadog.
"Dwi am alluogi pobl ifanc i gael profiadau bywyd sydd ddim yn dod yn naturiol ym mywyd pawb," meddai.
"Dwi am roi yn ôl be dwi' 'di gael gan Ffermwyr Ifanc ac annog pobl ifanc i lwyddo, i wneud pethau ac i gael profiadau yn eu bywyd.
"Dwi'n meddwl bod lot o bobl ifanc ddim yn meddwl bod swyddi gofal iddyn nhw a bod pobl sydd wedi cael lot fwy o brofiad yn medru gwneud y swyddi yn well, ond dwi'n credu bod angen i bobl ifanc weithio gyda phobl ifanc oherwydd bod yr ochr gyfathrebu efo pobl ifanc yn dod yn haws pan 'dach chi'n ifanc eich hun.
"Mae lot o bobl ifanc yn meddwl bod gwaith gofal yn yrfa sydd i'w wneud efo gofal personol person arall - ond mae e'n lot mwy."
'Gwneud gwahaniaeth'
Yr wythnos hon mae ymgyrch recriwtio yn cael ei lansio i ddenu mwy o bobl ifanc i'r diwydiant - diwydiant sydd ar hyn o bryd yn cyflogi tua 113,000 o bobl.
Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar y boddhad sydd i'w gael o weithio yn y maes.
Mae'n dilyn rhybudd gan feithrinfeydd eu bod nhw'n cael hi'n anodd recriwtio staff, yn enwedig rhai profiadol.
Ychwanegodd Malcolm Williams: "Os nad yw'r sefyllfa yn newid, fydd dim digon yn gweithio yn y sector i ateb y galw, mae disgwyl i nifer y bobl dros 75 oed gynyddu 70% erbyn 2040 - a nifer y rhai dros 85 oed i ddyblu.
"Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar straeon pobl ifanc sy'n gweithio yn y maes yn barod. M
"Mae nifer ohonynt yn frwdfrydig tu hwnt gan ddweud nad oeddynt yn sicr ar y dechrau ond bod y swydd bellach yn rhoi llawer o fwynhad iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2019
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017