'Angen uchelgyhuddo os yn anwybyddu cyfraith Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Wiktor Szymanowicz/Getty Images

Dylai arweinwyr y gwrthbleidiau fod yn barod i uchelgyhuddo y prif weinidog petai'n anwybyddu cyfraith newydd Brexit heb gytundeb, medd Plaid Cymru.

Yn ôl arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mae Boris Johnson "eisoes wedi gyrru tarw dur drwy'r cyfansoddiad".

Nod cyfraith newydd, sy'n debygol o gael cydsyniad brenhinol ddydd Llun, yw atal y DU i adael yr UE heb gytundeb ar 31 Hydref drwy orfodi'r llywodraeth i ofyn am estyniad i gyfnod Erthygl 50.

Mae Swyddfa Boris Johnson wedi cael cais i wneud sylw.

'Neb uwchben y gyfraith'

Does na'r un prif weinidog wedi cael ei uchelgyhuddo, ond yn y gorffennol mae Mr Johnson ei hun wedi cefnogi cais i uchelgyhuddo Tony Blair pan oedd yn brif weinidog yn 2004.

Mae uchelgyhuddo yn fodd i'r Senedd gyhuddo unigolion o drosedd neu gamymddygiad gerbron llys cymwys, ond nid yw gweithred o'r fath yn arferol.

Ddydd Gwener cafodd mesur trawsbleidiol Brexit ei basio - mesur sy'n gorchymyn i'r prif weinidog ymestyn y dyddiad gadael tan fis Ionawr oni bai bod y Senedd yn dod i gytundeb gyda'r UE cyn 19 Hydref.

Ond mae'r prif weinidog wedi dweud ei fod yn well ganddo fod yn "farw mewn ffos" na gofyn am estyniad.

Roedd dydd Llun hefyd yn ddiwrnod prysur yn Nhŷ'r Cyffredin, gyda'r Llefarydd John Bercow yn cyhoeddi y bydd yn gadael erbyn 31 Hydref ac ASau hefyd yn pleidleisio dros gynnig yn galw ar y llywodraeth i gyhoeddi gohebiaeth ynglŷn â'u cynlluniau i atal y Senedd a pharatoadau Brexit heb gytundeb.

Fe fydd y Senedd yn cael ei gohirio ar ôl dydd Llun am bum wythnos, ond cyn hynny bydd y llywodraeth yn cynnig eto y dylid cael etholiad cynnar - er bod disgwyl i'r gwrthbleidiau eu rhwystro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Saville Roberts yn dweud y dylid ystyried uchelgyhuddo Boris Johnson

Yn y gorffennol mae'r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, wedi dweud y byddai'r llywodraeth yn ufuddhau i'r gyfraith ond yn "edrych yn ofalus iawn" ar y "dehongliad" o'r ddeddfwriaeth.

Mae arbenigwyr cyfreithiol wedi rhybuddio'r prif weinidog y gallai wynebu carchar os nad yw'n cydymffurfio â'r gyfraith newydd.

Dywedodd Ms Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, y byddai hi'n dweud wrth arweinwyr y gwrthbleidiau i fod yn barod i uchelgyhuddo Mr Johnson os yw'n anwybyddu'r gyfraith newydd.

"Mae Boris Johnson eisoes wedi gyrru tarw dur drwy'r cyfansoddiad ac felly dyw gweithredoedd fel uchelgyhuddo ddim yn amhosib," meddai.

"Os yw'r prif weinidog yn torri'r gyfraith mae gennym achos cryfach ar gyfer uchelgyhuddo, gweithred y galwodd ef ei hun amdani yn 2004.

"Does yna neb uwchben y gyfraith. Ddylai Boris Johnson ddim mentro canfod hynny y ffordd galed."

Yn y cyfamser mae AS Aberafan, Stephen Kinnock, ymysg grŵp o wleidyddion sy'n ceisio cael cytundeb tebyg i un y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, drwy Dŷ'r Cyffredin.

Dywedodd Mr Kinnock fod y mesur ymadael yn rhoi "sylfaen dda iawn" i Boris Johnson i negydu gyda'r UE.

Uchelgyhuddo?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Er bod nifer o weinidogion wedi cael eu huchelgyhuddo yn y 19eg Ganrif does yna'r un prif weinidog wedi cael ei uchelgyhuddo'n llwyddiannus;

  • Dim ond un AS sydd ei angen i gyhuddo swyddog cyhoeddus o droseddau difrifol neu gamymddygiad ac yna mae'r broses yn dechrau;

  • Mae Tŷ'r Cyffredin yn gyntaf yn pleidleisio ar gynnig o uchelgyhuddo ac os yn llwyddiannus mi allai hynny arwain at erlyn neu achos;

  • Yn hanesyddol mae achosion wedi'u cynnal yn Neuadd Westminster.