Heddlu'n apelio ar ôl darganfod corff ger Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
A465Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan yrwyr fu'n teithio ar hyd yr A465

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn 50 oed o ardal Cwmbrân,

Cafodd corff y dyn ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd am tua 12:00 ddydd Sul, wrth iddyn nhw fynd am dro yng Ngwarchodfa Natur Taf Fechan ger Merthyr Tudful.

Mae plismyn sy'n ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth yn apelio ar yrwyr fu'n teithio ar hyd yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Cefn Coed a Dowlais rhwng hanner nos a 02:00 fore Sul.

Mae'r heddlu'n annog gyrwyr i gymryd golwg ar unrhyw luniau dashcam i weld a oes delweddu o ddyn yn cerdded ar hyd y ffordd i gyfeiriad Dowlais.

Mae dyn 37 oed o Ferthyr Tudful yn y ddalfa yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.

Ar hyn o bryd mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad, ac mae swyddogion yn disgwyl canlyniadau archwiliad post mortem er mwyn cael gwybod achos y farwolaeth.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac maen nhw'n derbyn cefnogaeth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio Heddlu De Cymru ar 101, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.