Cymru dan-21 1-5 Yr Almaen dan-21

  • Cyhoeddwyd
Mark Harris' penalty was Wales U21s' high point on a difficult nightFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mark Harris yn sgorio i Gymru o'r smotyn

Fe wnaeth Robin Hack sgorio hatric wrth i'r Almaen roi cweir i dîm dan 21 Cymru yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop 2021.

Daw hyn ar ôl iddynt guro Gwlad Belg 1-0 ddydd Gwener, ond roedd yr Almaen - tîm wnaeth gyrraedd ffeinal y bencampwriaeth eleni - yn rhy bwerus.

Daeth hatric Hack o fewn hanner awr ar y Cae Ras gyda Johannes Eggestein yn rhoi'r ymwelwyr 4-0 ar y blaen.

Llwyddodd cic o'r smotyn gan Mark Harris dynu gol yn ôl i Gymru wedi'r egwyl, ond ildiodd Cymru eto gyda Adrian Fein yn curo'r golgeidwad George Ratcliffe.