Cyhoeddi rhaglen ginio newydd ar BBC Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Catrin Haf Jones, Vaughan Roderick, Jennifer Jones a Dewi Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyr Dros Ginio: Catrin Haf Jones, Vaughan Roderick, Jennifer Jones a Dewi Llwyd

Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhaglen newyddion newydd yn cymryd lle Taro'r Post ar amserlen yr orsaf.

Bydd Dros Ginio, rhwng 12:00 a 14:00, yn rhaglen newyddion a materion cyfoes, a fydd yn cael ei chyflwyno gan bedwar cyflwynydd yn ystod yr wythnos.

Dewi Llwyd fydd yn cyflwyno ddydd Llun a Gwener, Jennifer Jones ddydd Mawrth, Vaughan Roderick ddydd Mercher a Catrin Haf Jones ddydd Iau.

Bydd Dewi Llwyd hefyd yn rhoi'r gorau i fod yn gyflwynydd y Post Prynhawn.

Daw'r newidiadau i rym o fis Tachwedd.

Dywedodd golygydd yr orsaf, Rhuanedd Richards: "Os bu angen erioed am raglen i graffu ar ddigwyddiadau'r byd o'n cwmpas, a hynny drwy lygaid y Cymry, dyma'r amser.

"Ry'n ni'n gwybod, yn dilyn sgyrsiau gyda'r gwrandawyr eu bod yn mwynhau rhaglenni byw sy'n gallu symud yn gyflym i ymateb i newyddion.

"Os yw e'n bwysig i bobl Cymru, fe fydd lle i'w drafod ar y rhaglen - o'r diweddara' gyda thrafodaethau Brexit i'r drafodaeth am newid hinsawdd."

Diolch i Garry Owen

Dywedodd Dewi Llwyd ei bod hi "wastad yn braf cael her newydd gyffrous" a'i fod yn "edrych ymlaen yn arw".

Ychwanegodd bod cyflwyno'r Post Prynhawn am saith mlynedd wedi bod yn "anrhydedd".

Dywedodd Jennifer Jones ei bod hi'n "fraint cael bod yn ôl yn rhan o dîm Radio Cymru", gan sicrhau gwrandawyr y bydd "digon o gyfle i drafod pethau ysgafnach hefyd a chael thipyn o hwyl".

Wrth gyhoeddi'r newid, fe ddiolchodd Ms Richards i gyflwynydd Taro'r Post, Garry Owen, sydd wedi bod wrth y llyw ers 2012.

"Bydd Garry yn parhau i fod yn aelod allweddol o wasanaeth newyddion yr orsaf a byddwn yn parhau i glywed ei lais," meddai.