'Rhaid denu gwrandawyr a chreu awch i ehangu Radio Cymru 2

  • Cyhoeddwyd
RC2

Mae angen denu pobl i wrando ar Radio Cymru 2 ac awchu i ehangu'r arlwy, medd golygydd y gwasanaeth ar ddiwrnod cyntaf taith i nodi pen-blwydd cyntaf yr orsaf.

Dywedodd Rhuanedd Richards bod hi'n "bur annhebygol" y bydd arian ychwanegol ar gael yn y dyfodol agos ar gyfer ymestyn oriau darlledu'r orsaf, ond ei bod yn "gobeithio bydd hynny yn digwydd maes o law".

Ychwanegodd bod "dim bwriad o gwbwl i wanhau'r gwasanaeth craidd" wrth geisio rhoi mwy o ddewis i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith.

Mae cyflwynwyr sioe frecwast yr ail orsaf, Dafydd Meredydd a Caryl Parry Jones yn ymweld â gweithleoedd, canolfannau cymunedol ac ysgolion ar draws Cymru bob dydd yr wythnos hon.

Dywedodd y cyflwynwyr bod y flwyddyn ddiwethaf "wedi hedfan heibio", gan ychwanegu eu bod yn "edrych ymlaen yn fawr i fynd ar y daith a chyfarfod gwrandawyr ym mhob rhan o Gymru, yn ogystal â chael y cyfle i berswadio gwrandawyr newydd i ymuno yn yr hwyl ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2".

Cafodd Radio Cymru 2, ei lansio ar Ionawr 29, 2018, ac mae'r Sioe Frecwast - sy'n cael ei darlledu ar blatffomau digidol ar ar-lein - yn cynnig cerddoriaeth ac adloniant.

Dywedodd Rhuanedd Richards wrth Post Cyntaf bod y sioe "yn bendant wedi dechrau gwreiddio erbyn hyn" a bod "arwyddion cadarnhaol bod yr ail orsaf yn cynnig rhywbeth gwahanol i bobol Cymru".

Dydy hi "ddim yn bosib" meddai, "i fesur yn iawn eto faint sy'n gwrando," am fod RAJAR - y cwmni sy'n mesur cynulleidfaoedd radio - yn trin Radio Cymru 2 fel rhan o'r brif orsaf,

"Yr hyn y'n ni'n gallu neud yw mesur nifer y ceisiadau... i wrando ar Radio Cymru 2 ar-lein trwy blatfforme'r BBC ac y'n ni'n gw'bod bod 'na 64,000 o'r rheini wedi bod dros y flwyddyn gynta'."

Mae'r wybodaeth hefyd yn awgrymu bod y gynulleidfa rhwng 35 a 49 oed ar gyfer Radio Cymru 2 42% yn uwch na chanran y brif orsaf ar yr un platfformau darlledu, ond fe bwysleisiodd nad yw hynny "o reidrwydd yn adlewyrchu'r darlun yn llawn".

Manylion y daith

  • Llun, Ionawr 28: BBC Wrecsam; Cylch Ti a Fi yng Nghapel Bethesda, yr Wyddgrug; Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yng Nghoed Pella, Bae Colwyn.

  • Mawrth, Ionawr 29: BBC Bangor; swyddfeydd Cyngor Gwynedd, Caernarfon; Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, a Chaffi Alys, Machynlleth.

  • Mercher, Ionawr 30: BBC Aberystwyth; swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Aberystwyth; Ysgol Henry Richard, Tregaron a Chastell Aberteifi.

  • Iau, Ionawr 31: BBC Caerfyrddin; swyddfeydd Cyngor Sir Gâr, Caerfyrddin; Ysgol Maes y Gwendraeth, Cefneithin a Chanolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys.

Yn ystod y daith fe fydd Dafydd a Caryl yn ceisio creu'r côr rhithwir mwyaf yn y byd i ganu Pen-blwydd Hapus.

"Ychwanegodd Rhuanedd Richards: "Fyswn i'n hoffi meddwl gallen ni ddatblygu Radio Cymru 2 yn y pen draw i fod yn ail orsaf radio sy'n darlledu gwasanaeth amgen yn y Gymraeg drw'r dydd ond ma' hynny'n mynd i gymryd amser.

"Fydd yn gwbwl ddibynnol ar dri pheth... un, ein llwyddiant creadigol ni fel darlledwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dyfodol arlwy Radio Cymru 2 yn dibynnu ar sawl ffactor, medd Rhuanedd Richards

"Yn ail, arian, achos mae'n bur annhebygol bod 'na arian ychwanegol ar gael yn y dyfodol agos gan fod y BBC yn dal i fynd trwy gyfnod o gynni ariannol.

"O gael dwy orsaf, mae'n rhaid eu hariannu o'r un gronfa bresennol. Does ginnon ni ddim bwriad o gwbwl i wanhau'r gwasanaeth craidd.

"Beth y'n ni ishie cynnig yw dewis o safon ar y ddwy orsaf, ond mae hynny yn mynd i fod yn ddibynnol hefyd ar - y trydydd peth - y gynulleidfa.

"Mae'n rhaid i ni ddenu pobol i wrando ar yr ail orsaf ac i awchu am ehangu'r arlwy, a gobeithio bydd hynny yn digwydd maes o law."

Mae Radio Cymru 2 ar gael ar setiau digidol, ap BBC Sounds, ac ar deledu:

  • Sky - sianel 0154

  • Freesat - sianel 718

  • Freeview, YouView, BT TV a TalkTalk TV - sianel 721

  • Ac o Ionawr 29, bydd Radio Cymru 2 ar gael ar deledu Virgin - sianel 913.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw