Cloddio am ran o hanes Iwerddon yn Frongoch

  • Cyhoeddwyd
archeoleg
Disgrifiad o’r llun,

Alwyn Jones (chwith) a rhai o wirfoddolwyr sydd wrthi'n cloddio ar safle hen wersyll Frongoch

Mae teuluoedd Gwyddelod gafodd eu carcharu yng Nghymru dros 100 mlynedd yn ôl wedi bod yn gwneud gwaith archeolegol ar y safle.

Ar un adeg wedi Gwrthryfel Y Pasg yn 1916 roedd dros 1,800 o Wyddelod yng ngwersyll Frongoch ger Y Bala.

Yn eu plith roedd Michael Collins, a ddaeth yn arweinydd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon cyn iddo gael ei ladd yn 1922.

Mae Alwyn Jones yn byw yn Frongoch ac yn ymddiddori yn hanes y cyn-wersyll.

"Roedd Michael Collins ymhlith y rhai gafodd eu carcharu yma, a fwy na heb yn fa'ma y dechreuodd o ar ei daith i gael annibyniaeth i'w wlad," meddai.

"Oherwydd bod cymaint o Wyddelod wedi eu carcharu efo'i gilydd, roedd ganddyn nhw gyfle i drafod ac i baratoi ar gyfer y dyfodol ac mae rhai yn adnabod y carchar fel 'prifysgol Chwyldro' oherwydd bod nhw'n gallu cynllunio at y dyfodol."

Roedd yna ddau garchar yn Frongoch, un ar safle'r de yn yr hen ddistyllfa chwisgi, a champ y gogledd oedd wedi cael ei wneud i fyny o gytiau pren.

Disgrifiad o’r llun,

Plac yn cofio hanes y Gwyddelod gafodd eu carcharu ym Mrongoch

Mae prifysgolion Bangor a Bryste yn rhan o'r gwaith archeolegol sydd wedi ei wneud ar ran o safle camp y gogledd.

Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn tyllu yn Frongoch mae Farannan Tannam o Ddulyn.

Roedd ei dad wedi ei garcharu yno yn dilyn y gwrthryfel yn 1916.

"Mae o wedi bod yn ddiddorol ac yn emosiynol," meddai.

"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig cofio oherwydd mae'r adeiladau i gyd wedi mynd, felly pan mae pobl yn pasio dyden nhw ddim yn gwybod be' ddigwyddodd yma.

"Fe aeth rhai o'r bobl yma yn eu blaenau i fod yn brif weinidog ac arlywydd Iwerddon, yn ogystal â dal rhai o'r prif swyddi yn llywodraeth Iwerddon."