Gwynedd yn bygwth dirwyon am gamddefnydd biniau
- Cyhoeddwyd
Gallai ymdrech i waredu biniau sbwriel o strydoedd weld myfyrwyr prifysgol yn cael eu targedu.
Mae cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried cymeradwyo dirwyon i droseddwyr cyson, a hynny yn dilyn cwynion cyson, yn enwedig ym Mangor.
Mae'r cyngor wedi pwysleisio mai cam olaf fyddai'r gosb ariannol o hyd at £100.
Dywedodd arweinwyr undebau myfyrwyr y byddan nhw'n "cnocio ar ddrysau" er mwyn ceisio sicrhau bod myfyrwyr yn osgoi dirwyon.
Fe ddaw'r cynnig yn dilyn dwy flynedd o ymgynghori ar draws y sir am sut i daclo'r broblem o bobl yn rhoi eu biniau allan i'w casglu ar y diwrnod anghywir, neu eu gadael ar y stryd am ddyddiau.
Mae'r cyngor hefyd am weld trigolion yn ailgylchu'n gywir, ac nid rhoi eitemau ddylai gael eu hailgylchu mewn biniau sbwriel.
'Pryderon ers tro'
Pe bai'r cyngor yn cymeradwyo'r cynnig, fe allai'r rhai sydd ddim yn cydymffurfio â'r rheolau gael cosb benodol o hyd at £100.
Yn y pen draw, fe allai troseddwyr parhaus gael eu cymryd i'r llys ac wynebu dirwy o hyd at £1,000.
Wrth drafod y cynnig, fe fydd yr awdurdod hefyd yn ystyried cynllun am ymgyrch ar draws y sir, ond "gyda phwyslais ar ddinas Bangor".
Fe fydd miloedd o fyfyrwyr yn cyrraedd Bangor wrth i dymor newydd ddechrau'r wythnos hon, gan fwy na dyblu poblogaeth y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager: "Mae pryderon wedi bod yn ein cymunedau ers tro am finiau a bocsys ailgylchu'n cael eu gadael allan ar y stryd drwy'r wythnos, gan osod rhwystrau ar y pafin a chael effaith negyddol ar olwg y cymunedau.
"Rwy'n credu bod modd delio gyda'r mwyafrif llethol o broblemau drwy annog trigolion i roi eu biniau allan ar ddiwrnod casglu yn unig, a thrwy wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ac addysgu pobl am y casgliadau sydd ar gael.
"Fel cam olaf, ac ar ôl mynd ar hyd bob llwybr arall y bydden ni'n ystyried yr angen i weithredu'n orfodol lle mae trigolion yn parhau i anwybyddu'r cyngor."
Dywedodd Undeb Myfyrwyr Bangor ei fod yn gwrthwynebu'r defnydd o ddirwyon.
"Dylen ni fod yn gweithio gyda thrigolion lleol i'w dysgu nhw am ailgylchu, ddylai eu hannog i ddelio gyda gwastraff yn effeithiol," meddai'r llywydd, Mark Barrow.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018