Jane Dodds: Johnson a Corbyn yn arweinwyr 'gwenwynig'

  • Cyhoeddwyd
Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Jane Dodds isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed fis diwethaf

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud bod Boris Johnson a Jeremy Corbyn wedi bod yn "eithaf gwenwynig" yn y ffordd maen nhw'n rheoli eu pleidiau.

Dywedodd Jane Dodds mai dyna'r rheswm pam fod cynifer o ASau wedi troi at y Democratiaid Rhyddfrydol - am eu bod "eisiau bod yn rhan o blaid agored a goddefgar".

Mae arweinydd y blaid trwy'r DU, Jo Swinson wedi llwyddo i berswadio aelodau i gefnogi polisi i ddiddymu Brexit heb refferendwm arall.

Yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Bournemouth dywedodd Ms Dodds ei bod yn cefnogi'r syniad.

"Os ydyn ni'n cael mwyafrif fe fyddwn ni'n diddymu Erthygl 50, ac os dydyn ni ddim fe fyddwn ni'n ymgyrchu'n gryf iawn i sicrhau bod Pleidlais y Bobl," meddai.

Jo SwinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jo Swinson wedi llwyddo i berswadio aelodau i gefnogi polisi i ddiddymu Brexit heb refferendwm arall

Yn ei haraith i'r gynhadledd dywedodd Ms Dodds hefyd mai ei phlaid yw'r unig un sy'n brwydro i gadw Cymru'n rhan o'r DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd ei bod yn "falch o fod yn Brydeinig ac yn Ewropeaidd".

Ond ychwanegodd AS newydd Brycheiniog a Sir Faesyfed bod "strwythurau" y DU angen newid er mwyn gwneud Cymru yn rhan o "deulu cyfartal o genhedloedd".

Galwodd am fwy o ddatganoli, gan ddweud fod y blaid eisiau "sicrhau bod pob rhan o'r undeb â llais, wedi'i gefnogi gan ddatganoli ystyrlon".

Hyd yma, polisi'r Democratiaid Rhyddfrydol ar Brexit oedd ymgyrchu am refferendwm arall, ac ymgyrchu dros aros yn yr UE yn y bleidlais honno.

Ond ddydd Sul fe wnaeth aelodau'r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi cynnig eu harweinydd, gan olygu y bydd diddymu Erthygl 50 yn rhan o faniffesto'r blaid ar gyfer yr etholiad nesaf.