Jo Swinson: 'Trafodaethau o ddifrif' gyda Plaid Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Jo Swinson

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol "yn ddiffuant ac o ddifrif mewn trafodaethau" gyda Phlaid Cymru dros gytundeb wrth ymgyrchu yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl arweinydd y blaid, Jo Swinson.

Er i ASau'r gwrthbleidiau wrthod cais y Prif Weinidog Ceidwadol, Boris Johnson i gynnal etholiad cyffredinol brys ddwywaith, mae yna ddarogan y bydd yna etholiad cyn y Nadolig gan nad oes mwyafrif gan ei lywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae arweinwyr y gwrthbleidiau'n mynnu bod rhaid sicrhau nad yw'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb ar 31 Hydref cyn pleidleisio o blaid cynnal etholiad, ond mae'r llywodraeth Geidwadol yn eu cyhuddo o osgoi wynebu barn etholwyr.

Fe gipiodd y Democratiaid Rhyddfrydol sedd yn San Steffan oddi ar y Ceidwadwyr ym mis Awst gyda chefnogaeth Plaid Cymru.

Penderfynodd Plaid Cymru beidio sefyll yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed er mwyn denu pleidleisiau etholwyr sydd o blaid ail refferendwm Brexit, ac mae hynny wedi arwain at drafod y posibilrwydd o gydweithio tebyg ar lefel ehangach ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

'Trafodaethau adeiladol'

Pan ofynnwyd sut mae trafodaethau'n mynd yn eu blaenau, dywedodd Jo Swinson wrth BBC Cymru: "Mae yna drafodaethau adeiladol… ond fydd y trafodaethau hynny yn mynd rhagddynt a bydd yna gyhoeddiadau wrth i hynny ddigwydd."

Doedd hi ddim am enwi etholaethau penodol lle y gallai'r ddwy blaid ddod i gytundeb, ond fe ddywedodd na fyddai cytundeb o'r fath yn achos sedd ymylol Ceredigion, lle mae'r ddwy blaid â siawns o ennill.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim ymgeisydd Plaid Cymu yn yr isetholiad a welodd Jane Dodds yn cipio'r sedd oddi ar y Ceidwadwyr i'r Democratiaid Rhyddfrydol

104 oedd mwyafrif Ben Lake pan enillodd y sedd ar ran Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2017, ac mae Ms Swinson yn rhagweld "brwydr fywiog" yng Ngheredigion yn yr ymgyrch nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru mai nhw "yw'r brif blaid yng Nghymru o blaid aros yn yr UE" ond y bydd y blaid "yn parhau i weithio'n drawsbleidiol i sicrhau atebion synhwyrol, aeddfed i ddod â'r anhrefn Brexit yma i ben".

'Llafur ddim yn blaid Aros'

Mynnodd Ms Swinson y byddai ei phlaid yn ymgyrchu yn erbyn ASau Llafur sy'n gwrthwynebu Brexit, hyd yn oed mewn etholaethau ymylol.

"Dydy Llafur ddim yn blaid Aros… er gwaethaf ymdrechion nifer o ASau Llafur ardderchog sydd wedi gwneud eu gorau," meddai.

"Fel Democratiaid Rhyddfrydol, mae angen i ni sicrhau dewis i bobl bleidleisio dros blaid sydd wirioneddol eisiau atal Brexit."

Roedd Nigel Farage wedi cynnig llunio cytundeb rhwng Plaid Brexit a'r Ceidwadwyr er mwyn sicrhau cynifer o ASau sydd o blaid gadael yr UE â phosib yn yr etholiad cyffredinol nesaf ond mae Downing Street wedi wfftio'r syniad.

Bydd y cyfweliad llawn yn rhaglen BBC Sunday Politics Wales am 10:00 ddydd Sul, 15 Medi ac yna ar BBC iPlayer.