Diffoddwr tân wedi marw wedi gwrthdrawiad dau gwch

  • Cyhoeddwyd
NeylandFfynhonnell y llun, Martin Cavaney/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw diffoddwr tân mewn gwrthdrawiad rhwng dau gwch

Mae diffoddwr 35 oed o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi marw wedi gwrthdrawiad rhwng dau gwch mewn marina yn Sir Benfro.

Roedd y cychod yn rhan o ymarferiad badau diffodd tân.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ym marina Neyland, ger Aberdaugleddau tua 11:30 ddydd Mawrth.

Maen nhw wedi rhoi gwybod i deulu'r dyn a fu farw ac yn rhoi cefnogaeth arbenigol.

"Gallwn gadarnhau fod diffoddwr 35 oed gyda Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi colli ei fywyd mewn digwyddiad wrth i ddau gwch fod mewn gwrthdrawiad," meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i gydweithwyr."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym marina Neyland fore Mawrth

Mewn datganiad dywedodd Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Chris Davies: "Dydd Mawrth 17 Medi am tua 11:30 roedd gwrthdrawiad rhwng dau gwch achub y gwasanaeth tân ym marina Neyland.

"Fe allai gadarnhau'r newyddion trist fod y digwyddiad wedi achosi marwolaeth un o swyddogion y gwasanaeth tân.

"Mae ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal ar y cyd gyda Heddlu Dyfed Powys a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol.

"Ar hyn o bryd rydym yn meddwl am holl deulu a ffrindiau ein cydweithiwr a fu farw," meddai.