Ateb y Galw: Hywyn Williams, Parc Cenedlaethol Eryri
- Cyhoeddwyd
Swyddog Addysg Parc Cenedlaethol Hywyn Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddo gael ei enwebu gan Andrew Teilo yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Reidio beic tair olwyn yng nghefn tŷ Mam a Dad.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Mae lluniau o Farrah Fawcett yn dal yn rhoi gwên ar fy wyneb!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Tra ar wyliau yng nghanol Ffrainc yn y 70au, fy mrawd a mi yn rhoi sylwadau eithaf ffiaidd (yn Gymraeg) ar gyflwr y varicose veins ar goesau un o'r gwersyllwyr eraill. Ac yna Dad yn cyhoeddi ei fod wedi cyfarfod â Chymry eraill ar y maes carafanio, ac wedi derbyn gwahoddiad i fynd atynt am swper... ie... Dyn y Coesau!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mae deigryn neu ddau yn digwydd yn aml wrth wylio'r teledu. Nodwedd deuluol mae'n siŵr, roedd Mam yn union yr un fath.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'm yn meddwl fod gennyf arferion drwg, ond os gofynnwch i Marian (fy mhartner) fe fyddai hi yn ysgrifennu rhestr hirfaith mae'n siŵr!
O archif Ateb y Galw:
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Yr olygfa o Dro'r Gwcw ar y Mynydd Du yn edrych lawr dros ardal Gwynfe. Yr ymdeimlad o 'Berthyn i Gynefin' yn llifo.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mewn gwesty yn Llanberis, ac yn 'gwneud rhywbeth' a oedd yn hollol allan o'm cymeriad a dwi ddim wedi difaru dim ar ôl gneud 'chwaith.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Victor Meldrew Cymraeg.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dwi ddim yn ddarllenwr mawr nac yn wyliwr ffilmiau chwaith ond fe edrychaf ar fapiau o bob math am oriau.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Siarad a thrafod golff efo Tiger Woods ac efallai cael gwers gan 'Y Gorau' (er ei ffaeleddau!).
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gennyf ddyslecsia.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael gêm o golff efo ffrindiau ym Mhorthmadog (tra bo Marian yn siopio mae'n siŵr!) ac yna swper… a'r noson efo Marian a phanad hwyr cyn deud nos da.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Tra roedd ffrindiau ysgol yn gwrando ar Madness a'r Specials, fe glywais y gân Y Ficar Two Tone gan Y Ficar. Dyma'r gân wnaeth danio fy Nghymreictod wrth sylweddoli fod 'na gystal os nad gwell i'w gael yn fy iaith fy hun!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cibab cig oen efo iogwrt mint, tagine cig oen a bag o donyts!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Neil Armstrong, er mwyn gwybod yn iawn os ydi dyn wedi bod ar y lleuad neu beidio... dwi ddim 100% yn siwr!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Ann Evans