10 ffaith Catrin Heledd am Gwpan Rygbi'r Byd
- Cyhoeddwyd

Mae Catrin Heledd allan yn Japan yn barod i sylwebu o Gwpan Rygbi'r Byd sy'n cychwyn ddydd Gwener, 20 o Fedi.
Yma, mae'n rhannu 10 ffaith ddifyr am y bencampwriaeth sy'n cael ei chynnal dros yr wythnosau nesa':


Enillodd Cymru yn erbyn Lloegr 25-28 ynTwickenham yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015
10. Mae hi'n DDENG mlynedd ers i Japan gael gwybod taw nhw fydde'n cynnal Cwpan y Byd eleni. Ie, deng mlynedd i baratoi… ond maen nhw 'di anghofio rhywbeth pwysig iawn, sef cwrw!
Mae 'na bryder gwirioneddol gan y Siapanwyr wrth i holl gefnogwyr Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr dyrru i Tokyo, eu bod nhw'n mynd i redeg mas o'r ddiod feddwol!
9. Yn 1987 y cynhaliwyd pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd am y tro cyntaf. Mae hynny'n golygu mai dyma'r NAWFED tro i Gwpan Rygbi'r Byd gael ei chynnal.
8. Yn 2017 pan gafodd yr enwau eu tynnu allan o'r het ar gyfer y gystadleuaeth, roedd Cymru yn rhif WYTH ar restr detholion y byd. Mae pethau 'di newid cryn dipyn erbyn hyn!
7. Ystadegyn i'ch ysbrydoli! SAITH gêm sy'n gwahanu pob un tîm a chodi'r cwpan ar ddiwedd y gystadleuaeth.
6 . CHWECH yw'r nifer fwya' o geisiau i un chwaraewr eu sgorio mewn un gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Anhygoel! Ond pwy gyflawnodd y gamp? Mark Ellis o dîm Seland Newydd yn ôl yn 1995 pan chwalodd y crysau duon dîm Japan.
5. Dydy hwn ddim yn ystadegyn i lonni calon Warren Gatland [hyfforddwr tîm rygbi Cymru] ond mae Cymru wedi colli PUM gêm yn olynol yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd.
Yn 1991, 1999, 2007, 2011, a 2015. Record! Ai 2019 yw'r flwyddyn i newid y drefn?!
4. Mae Cymru wedi chwarae PEDAIR gêm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd - un yn ormod medd rhai (cofio gêm Iwerddon?!)

Seland Newydd yn ennill y bencampwriaeth yn 2015
3. Seland Newydd yw'r tîm mwya' llwyddiannus yn hanes Cwpan Rygbi'r Byd, maen nhw wedi codi Cwpan Webb Ellis DAIR gwaith! Hen bryd i rywun newydd gael gafael ynddo fe, on' dyw hi?!
2. Mae bron i DDWY filiwn o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y twrnament. Mae hynny'n 27 llond Stadiwm Principality!

Sgoriodd Rhys Patchell gais i Gymru yn erbyn Iwerddon ddiwedd Awst, ond colli oedd hanes Cymru 22-17
1. Ro'n i am ddweud fod Cymru yn rhif un y byd, ond fe wnaeth y Gwyddelodd sbwylo'r parti yna! Felly beth am rhif 1 arall? Dyma'r tro cyntaf i gyfandir Asia gynnal Cwpan Rygbi'r Byd.

Hefyd o ddiddordeb: