Beirniadu diffyg tai bach ar drenau Metro De Cymru

  • Cyhoeddwyd
Delwedd 3D o Fetro De CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd trenau newydd Metro De Cymru yn "ysgafnach a mwy cul" na'r rhai blaenorol

Mae diffyg toiledau ar drenau newydd fydd yn gwasanaethu cymoedd y de yn groes i hawliau dynol, medd teithiwr â chyflwr sy'n golygu bod rhaid mynd i'r tŷ bach yn amlach na'r cyfryw.

Mae'r tramiau'n rhan o gynllun Metro De Cymru, sy'n werth £738m, sydd i fod i ddechrau yn 2022.

Ond bydd yn rhaid i'r miloedd o deithwyr rhwng Caerdydd, Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Coryton ddefnyddio tai bach gorsafoedd y gwasanaeth.

Dywed Trafnidiaeth Cymru bod toiledau ddim yn ffitio o fewn y trenau newydd ond bydd yna welliannau i dai bach gorsafoedd.

'Mae'n eich dad-ddynoli'

Mae'r sefyllfa'n destun pryder i Ben Marriott, 33, sy'n byw gyda llid briwol y colon (ulcerative colitis) - math o glefyd llid y coluddyn (IBD) sy'n golygu bod angen mynd i'r tŷ bach hyd at 40 gwaith y diwrnod.

Mae'n teithio'n rheolaidd o Gaerdydd i ymweld â'i deulu yn Aberdâr, ond mae'n dweud y bydd yn amhosib gwneud hynny ar drenau heb doiledau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ben Marriott ei fod ond yn gallu teithio ar drenau gyda thai bach

"'Dach chi byth yn gwybod pa bryd fyddech chi angen y tŷ bach," meddai.

"Mae'n eich dad-ddynoli, meddwl am orfod gwneud y siwrne yna heb dŷ bach. Byddwn i ond yn gallu defnyddio trenau gyda thoiledau."

Dywed Trafnidiaeth Cymru eu bod yn buddsoddi mewn gwella adnoddau mewn gorsafoedd gan sicrhau bod teithwyr "byth yn fwy na 14 o funudau" o dŷ bach.

'Gwneud gwahaniaeth anferthol'

Ond yn ôl Mr Marriott fe fydd diffyg tai bach ar drenau yn atal pobl rhag eu defnyddio "gan eu hynysu yn y cymoedd".

Ychwanegodd: "Mae'n drist oherwydd mae'n rhywbeth mor syml a fyddai'n gwneud gwahaniaeth anferthol i ansawdd bywydau pobl. Mae'n gynllun gwael."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Leanne Wood y gallai'r diffyg toiledau achosi trafferthion difrifol ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd

'Mae AC Rhondda a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi codi'r mater gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gan boeni y bydd yn achosi trafferthion i unigolion sy'n sâl, beichiog, oedrannus neu â chyflwr meddygol.

"Mae'n syniad gwirioneddol ddrwg," meddai.

"Bydd rhai pobl yn teithio am dros awr ar y trên.

"Dyw hi ddim yn ymarferol i adael y trên mewn gorsaf ac aros am ba bynnag amser i'r trên nesaf gyrraedd."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map o gynllun Metro De Cymru

Yn ôl y grŵp Railfuture Wales, sy'n ymgyrchu ar ran teithwyr, mae'r sefyllfa'n "gam yn ôl".

"Rydym yn falch y bydd yna welliannau mewn gorsafoedd [ond] mae disgwyl i bobl deithio heb doiledau am awr yn destun pryder," meddai'r cadeirydd, Peter Kingsbury.

"Mae profiad yn dangos bod e'n hawdd i doiledau gorsafoedd gael eu fandaleiddio, gan fydd llawer o orsafoedd heb staff. Cloi'r toiledau oedd yr ateb i hynny."

Dywed Trafnidiaeth Cymru na fydd toiledau'n ffitio ar drenau newydd Metro De Cymru am eu bod yn "ysgafnach ac yn fwy cul" na'r trenau arferol sydd yn ninasoedd eraill yn y DU.

Ychwanegodd y prif weithredwr, James Price: "Bydden ni'n gweithio'n agos gyda mudiadau'r anabl i ddatblygu ein cynlluniau."