Marwolaeth Sgiwen: Dau fachgen 16 oed yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dau fachgen 16 oed wedi ymddangos yn Llys Ieuenctid Abertawe mewn cysylltiad â marwolaeth landlord tafarn ar 1 Medi.
Bu farw Mark Winchcombe, 58, o ganlyniad i'w anafiadau wedi ymosodiad tua 00:55 fore Sul ar Main Road, Mynachlog Nedd yn Sgiwen.
Mae un bachgen wedi'i gyhuddo o ddynladdiad ac affrae a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Hydref.
Mae'r bachgen arall wedi ei gyhuddo o affrae ond mae ei achos wedi'i ohirio am bythefnos. Bydd yn ailymddangos yn Llys Ieuenctid Abertawe ar 3 Hydref.
Mae'r ddau wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau.