Awst prysuraf erioed i adrannau damwain a brys Cymru

  • Cyhoeddwyd
WardFfynhonnell y llun, PA

Fe gafodd unedau brys ysbytai Cymru eu mis Awst prysuraf erioed ers cadw cofnodion eleni, yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Gwelodd unedau damwain a brys 92,850 o bobl ym mis Awst, a hynny wedi i'r nifer misol uchaf erioed - 99,552 - gael ei gofnodi yn ystod Gorffennaf eleni,

Cafodd 77.2% o'r cleifion eu gweld o fewn y targed o bedair awr ym mis Awst - perfformiad ychydig yn waeth nag yng Ngorffennaf.

Unwaith eto, Ysbyty Maelor Wrecsam wnaeth berfformio waethaf trwy Gymru, gyda 51.7% o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr er bod targed o 95%.

Bu'n rhaid i 4,847 o gleifion aros am dros 12 awr cyn cael eu trin, trosglwyddo neu'u rhyddhau - nifer ychydig is nag yng Ngorffennaf.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos y nifer uchaf erioed o gleifion sy'n aros am driniaeth ysbyty, sef 461,877, gydag ychydig dros 87% yn aros llai na chwe mis. 95% yw'r targed.

Dan y drefn newydd o gyfeirio achosion canser posib, fe ddechreuodd triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod yn achos 75.1% o gleifion, o'i gymharu â 74.4% ym Mehefin.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn parhau'n bryderus am berfformiad nifer fach o ysbytai ac yn gweithio gyda nhw'n uniongyrchol", ond bod "mwyafrif helaeth o bobl yn cael gofal amserol" er gwaethaf lefel uchel y galw a bod "targedau ambiwlans wedi eu cwrdd".

Ond yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns mae angen i'r gweinidog iechyd, Vaughan Gething "fod yn atebol am y tanberfformio parhaus yma".