Pobl yn 'deffro i fygythiad' newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Wrth i brotestiadau gael eu cynnal ar draws y wlad yn annog mwy o weithredu i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr mae'n Gohebydd Amgylcheddol Steffan Messenger wedi bod yng Ngheredigion er mwyn darganfod pa effaith mae newid hinsawdd yn ei gael yn barod.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn deffro i'r bygythiad. Y cwestiwn yw beth ydy pawb yn mynd i wneud amdano fe?" Dyna yw rhybudd Alison Heal Uwch Ecolegydd gyda Chyngor Sir Ceredigion, sydd yn ymchwilio i sut mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gynnydd yn lefel y môr.
Mae'n sefyll ar draeth Tanybwlch ger Aberystwyth wrth ymyl y greuan sydd yn rhwystr rhwng y tir a'r tonnau.
Ond gyda lefel y môr yn codi a mwy o stormydd cyson mae yna bryder bydd yr amddiffynfa yma yn dymchwel.
Dim ond un enghraifft yw'r greuan hon o'r ffordd mae newid hinsawdd yn cael effaith yng Nghymru ac mae'n golygu bod gan gynghorau fel Ceredigion benderfyniadau anodd i'w gwneud.
"Ni'n gwybod bod lefel y môr yn codi tua 3.2 milimetr y flwyddyn, felly 3.2 centimetr mewn degawd. A falle fydd hwn yn cynyddu hefyd. A ni yn gallu gweld effeithiau hynny fan hyn yn Tanybwlch. Mae'r greuan yn symud," meddai.
Mae'r tir amaethyddol ar yr ochr draw yn gwlyphau hefyd ac yn troi'n fwy hallt.
Gobaith yr awdurdod lleol yw y bydd y gwaith ymchwil maen nhw'n gwneud ar y safle, ar y cyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ei helpu i gynllunio ar gyfer rheoli'r effaith newid hinsawdd sy'n digwydd ar yr arfordir.
Pris i'w dalu
Mae trigolion lleol wedi helpu trwy roi lluniau i'r cyngor o sut yr oedd traeth Tanybwlch yn edrych flynyddoedd yn ôl.
Does dim perygl y bydd tai pobl yn cael eu heffeithio yn yr ardal yma ond mae yna bryderon eraill.
"Yr issue yw mae Llwybr yr Arfordir yn rhedeg ar hyd top y greuan. Mae'r Afon Ystwyth yn mynd mas i'r môr trwy harbwr Aberystwyth ac os ydy'r greuan yn symud yn sylweddol iawn falle byddwn ni yn colli Llwybr yr Arfordir yn fan hyn neu bydd lle mae'r afon yn rhedeg yn newid."
Mae'r gost o amddiffyn trefi a phentrefi ger y môr a ffyrdd a rheilffyrdd yn debygol o godi i'r dyfodol ac mae yna bris i'w dalu ar gyfer bywyd gwyllt a chynefinoedd hefyd.
Ryw 13 milltir i ffwrdd o draeth Tan-y-bwlch yng ngwarchodfa RSPB Ynyshir mae'r warden cynorthwyol Gethin Elias yn dweud ei fod yn sylwi ar newidiadau mawr.
Maen nhw'n cynnwys mwy o adar o dde Ewrop yn ymweld â'r warchodfa wrth i dymhereddau gynyddu ar y cyfandir a gwlyptiroedd yn ardal y Môr Canol brinhau.
"Mae'r adar fel y crëyr bach... 25 mlynedd yn ôl fysa nhw ddim yma. Ond maen nhw yma yn y gaeaf. Maen nhw'n byw ac yn nythu yma.
Effaith ar adar
"Mae'r crëyr gwyn mawr yn dechrau dod yma yn fwy aml. Fysa fo ddim di bod yma 25 mlynedd yn ôl ac mae hwnna i gyd i neud efo achos bod yr hinsawdd yn newid."
Ond mae yna ostyngiad mewn rhywogaethau sy'n fwy cyfarwydd i'r warchodfa fel y cwtiaid aur ac mae'r môr yn dod yn nes.
Mae hynny'n bygwth y corsydd halen y mae nifer o'r adar yn ddibynnol arnyn nhw.
Y penderfyniad yn y warchodfa oedd torri tyllau yn rhai o'r twmpathau sydd yn cadw'r tonnau i ffwrdd a gadael i rai caeau gael eu boddi er mwyn creu corstiroedd newydd yn y pendraw.
Mae heriau yn wynebu ffermwyr hefyd gyda darogan mwy o law, stormydd mwy ffyrnig a chynnydd yn y tymheredd.
Gallai olygu newidiadau i'r ffordd y bydd ein tirwedd yn edrych mewn degawdau i ddod wrth i gnydau gwahanol dyfu.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae labordy robotaidd anferth yn bodoli, yr unig un o'i fath ym Mhrydain. Yno maen nhw'n profi planhigion gwahanol i weld sut y bydden nhw'n dygymod wrth i newid hinsawdd gael effaith.
"Gyda'r porfeydd i ni yn tyfu ar hyn o bryd i ni yn gweld clefydau newydd yn dod. Felly mae'n rhaid arbrofi cyn rhoi nhw trwy'r system bridio," esbonia John Davies o'r brifysgol.
Mae cannoedd o botiau yn cael eu dyfrio, rhai yn cael gormodedd o ddŵr ac eraill yn gorfod ymdopi gyda sychder.
Y gobaith yn ôl Dr Fiona Cook o Ganolfan Genedlaethol Planhigion Ffenoligion yn y brifysgol yw dechrau addasu'r planhigion sydd yn cael eu tyfu yng Nghymru.
"Mae'n bosib y gallwn ni eu tyfu mewn gwahanol lefydd hefyd, symud yn fwy i'r ucheldiroedd gyda biodanwyddau yn tyfu mewn ardaloedd sydd ddim yn addas ar gyfer cnydau sy'n tyfu ar dir âr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2019