Rhys Ifans yn dychwelyd i lwyfan theatr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Rhys Ifans yn perfformio drama ar lwyfan yng Nghymru am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.
On Bear Ridge ydy cynhyrchiad newydd National Theatre Wales, sy'n agor yn y Sherman yng Nghaerdydd nos Wener.
Mae hi'n gyd-gynhyrchiad gyda'r Royal Court yn Llundain, lle bydd y sioe yn symud fis nesaf.
Y dramodydd Ed Thomas sy'n gyfrifol am y sgript, ac yntau wedi mentro 'nôl i'r theatr wedi 15 mlynedd yn canolbwyntio ar fyd ffilm a theledu.
Colli iaith ydy un o themâu'r ddrama, ac mae Rhys Ifans yn disgwyl i hynny ddenu ymateb gwahanol ymhlith y gynulleidfa yng Nghaerdydd o gymharu â'r rhai fydd yn ei gweld yn Llundain.
"Mae llais Cymreig i'r ddrama ond mae llygaid y ddrama yn rhai rhyng-genedlaethol," meddai.
"Maen nhw am y natur ddynol yn hytrach na'r natur Gymreig ddynol.
"Mae'n ddrama am golli cymuned, mae'n ddrama am golli cof, mae'n ddrama am alar, mae'n ddrama am gariad, ac mae'n ddrama am golli iaith.
"Ac felly fydd y dirgryniad o'r thema yna'n wahanol iawn dwi'n tybio yng Nghymru na fydd hi yn Lloegr, a bydd hi'n ddiddorol iawn gweld hynna.
"Un o'n hoff ddramâu fi ydy Translations gan Brian Friel, ac mae honna'n ddrama eto am iaith sydd yn cael ei sathru neu ei hanwybyddu, ei neglectio.
"A dwi'n ffeindio hynna yn ddirdynnol iawn ac yn angerddol iawn yn y ddrama yma - fy mod i'n sôn am iaith golledig, iaith sydd wedi'i sathru mewn ffordd. Mae hynny yn' neud i fi ysgwyd, weithiau."
'Hawdd dod i Gaerdydd'
Dywedodd Ed Thomas, wnaeth hefyd ysgrifennu'r gyfres deledu Y Gwyll: "Weithiau dwi'n meddwl mod i wedi bod yn meddwl am y ddrama drwy fy mywyd i.
"Dyma ymdrech i drio ail-greu fairyland Tir Na n'Og fy mhlentyndod i, ond drwy greu stori sy'n gafael yn y cyfnod ry'n ni'n byw ynddo.
"A hynny drwy sôn am atgof, hiwmor eithaf absẃrd, a ffordd o drafod am y cyfnod od ry'n ni'n ffeindio ein hunain yn byw ynddi ar hyn o bryd."
Dyma'r tro cyntaf i Rhys Ifans berfformio ar lwyfan theatr y Sherman yng Nghaerdydd, ac mae'r sioe yn dilyn seibiant o 20 mlynedd ers iddo gamu o flaen cynulleidfa yn un o theatrau Cymru.
Mae'n gobeithio bydd y cyhoeddusrwydd mae'r sioe wedi denu yn barod yn dod â mwy o sylw gan feirniaid Llundain i'r byd theatr Gymreig.
"Os fedra critics Llundain gyrraedd Hammersmith i refiwio drama, fedran nhw yn hawdd ddod i Gaerdydd," meddai.
Ac mae'r actor, sy'n hoff iawn o waith Ed Thomas, yn ystyried ei sgript ddiweddaraf i fod yn enghraifft wych o'i grefft.
"Ar deledu fedri di ddim bod mor farddonol. Felly mae Ed wedi medru tyfu adenydd yn y theatr, a dyna wrth gwrs lle wnaeth o ddechrau ysgrifennu.
"Mae'r ddrama hon yn digwydd yng ngwyll y dychymyg, felly mae'r thema 'gwyll' yma - er dwi'n meddwl falle bod 'na bach fwy o laffs yn hwn nag yn Y Gwyll!"
Mae On Bear Ridge yn theatr y Sherman tan 5 Hydref ac yn y Royal Court yn Llundain o 24 Hydref tan 23 Tachwedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2018
- Cyhoeddwyd27 Awst 2018