Cwpan Rygbi'r Byd: Cymru 43-14 Georgia

  • Cyhoeddwyd
Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canolwr Cymru, Jonathan Davies sgoriodd gyntaf yn Stadiwm Dinas Toyota

Llwyddodd Cymru i sicrhau pwynt bonws yn yr hanner cyntaf wrth iddyn nhw drechu Georgia'n gyfforddus yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

Daeth y cais cyntaf wedi dau funud yn unig wrth i Jonathan Davies ganfod bwlch yn yr amddiffyn a chroesi dan y pyst - cyn i Dan Biggar fethu'r trosiad yn annisgwyl.

Ond buan y daeth rhagor o bwyntiau wrth i Biggar lwyddo gyda chic gosb, cyn i Justin Tipuric groesi am ail gais yn dilyn rhediad pwerus Josh Adams.

Adams ei hun groesodd am y drydedd cais wedi 20 munud o chwarae, cyn i Liam Williams sicrhau'r pwynt bonws gyda'r bedwaredd eiliadau cyn yr egwyl i'w gwneud hi'n 29-0.

Disgrifiad,

Hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, a'r prop Wyn Jones yn asesu'r canlyniad

Prin iawn yr oedd Georgia wedi bygwth yn y 40 munud agoriadol, ond fe gawson nhw rywbeth i'w ddathlu ar ddechrau'r ail hanner wrth i'r bachwr Shalva Mamukashvili groesi'r llinell gais o sgarmes symudol.

Funudau'n ddiweddarach roedden nhw lawr i 14 dyn ar ôl i Jaba Bregvadze gael cerdyn melyn am ddymchwel sgarmes symudol Cymru.

Ond methodd Cymru â manteisio ar y dyn ychwanegol oedd ganddyn nhw ar y cae wrth i'r gwrthwynebwyr amddiffyn yn gadarn am 10 munud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cic George North (ch) greu cais i Tomos Williams cyn i rediad chwim y mewnwr greu cyfle i North dirio yn hwyr yn y gêm

Gyda'r crysau cochion yn herio Awstralia mewn dim ond chwe diwrnod, roedd Warren Gatland wedi manteisio ar y cyfle i anfon nifer o'i eilyddion i'r maes ar ddechrau'r ail hanner er mwyn gorffwys rhai o'i brif chwaraewyr.

Un o'r eilyddion hynny, Tomos Williams, gafodd bumed cais Cymru yn dilyn cic dda gan George North ar yr asgell.

Cafodd Levan Chilachava ail gais i Georgia 10 munud o'r diwedd i gau'r bwlch unwaith eto, cyn i Tomos Williams fwydo North y tro hwn er mwyn i'r asgellwr groesi ar gyfer y cais olaf.