Elusen newydd yn cael ei ffurfio i warchod hen gofeb
- Cyhoeddwyd
Wrth deithio o'r Trallwng tua'r ffin gyda Swydd Amwythig mae bryniau Breiddin yn codi'n amlwg uwchlaw'r tir gwastad islaw.
Ar gopa un o'r bryniau sy'n codi o bentref Crigion mae hen gofeb.
Colofn Rodney yw ei enw, ac er ei fod wedi sefyll ar y bryn ers dros 230 o flynyddoedd mae gan bobl yr ardal bryderon ynglŷn â'i ddyfodol.
Mae hynny am fod craciau wedi ymddangos yn y tŵr, mae rhan o'r wal yn bolio ac mae gofid hefyd y gallai'r gofeb, sy'n 54 troedfedd o uchder, fod yn fregus mewn stormydd gan fod rhoden fellt oedd arni wedi cael ei dwyn.
Mae pobl leol wedi dod at ei gilydd i sefydlu elusen er mwyn codi arian i atgyweirio'r gofeb sy'n gyrchfan boblogaidd i gerddwyr.
Mae'r golygfeydd o'r copa yn drawiadol - mae Cader Idris a'r Rhinogydd yn amlwg, ac ar ddiwrnod clir gallwch weld mor bell ag Ellesmere Port.
Dywedodd Lucy Roberts, cynghorydd sir dros Llandrinio fod y gofeb yn rhan bwysig o'r ardal a bod angen gwneud popeth i'w ddiogel.
"Dw' i a'r teulu wedi cerdded at y gofeb ar y diwrnod cyn Nadolig bob blwyddyn yn ddi-ffael.
"Mae angen gweithredu ar frys, y peth mwyaf pryderus yw diffyg rhoden fellt.
"Oherwydd bod y bryn, sydd 1,200 troedfedd o uchder, gymaint yn uwch na'r tir o'i gwmpas a'r pilar ar ei ben, mae'n agored iawn i gael ei ddifrodi mewn storm."
Mae'r bobl leol wedi casglu grŵp o ymddiriedolwyr at ei gilydd ac maen nhw yn y broses o wneud cais i'r Comisiwn Elusennau i ffurfio elusen.
Ond mae'r swm sydd angen ei godi yn sylweddol.
Yn ôl astudiaeth dichonolrwydd, gafodd ei chynnal ar ran cynghorau cymuned yr ardal, fe allai'r holl waith gostio oddeutu £160,000.
Ond os nad yw'r gwaith atgyweirio yn cael ei wneud, mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai'r gofeb gwympo o fewn dwy flynedd.
'Cymleth a chostus'
"Byddai hynny'n drist iawn oherwydd pe bai'r golofn yn cwympo dw i'n amau a fyddai'n cael ei hail-godi.
"A dyna bwrpas yr elusen, i ddiogelu'r pilar i bawb ei fwynhau at y dyfodol," meddai'r cynghorydd Roberts.
"Mae yn swm mawr o arian, un o'r problemau yw cael mynediad at y safle a chael y deunyddiau adeiladu i fyny i ben y bryn.
"Mae natur y safle yn gwneud y gwaith yn fwy cymhleth a chostus. Ond ry'n ni'n benderfynol o gyrraedd y nod."
Does dim dwywaith bod Colofn Rodney yn agos at galonnau pobl ardal Crigion - ond pam mae'r gofeb restredig Gradd II yna o gwbwl?
Cafodd ei godi ym 1782, gydag arian wedi'i roi gan Fonheddwyr Sir Drefaldwyn, i gofio'r Admiral George Brydges Rodney.
Cafodd Rodney ei eni yn Surrey ac fe oedd yn arwain llynges Prydain yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America yn y ddeunawfed ganrif.
Cafodd sawl buddugoliaeth nodedig yn erbyn y Ffrancwyr yn y Caribî.
'Er cof am admiral Rodney'
Dywed Bill Lee, cadeirydd yr ymddiriedolwyr sydd wedi byw yn yr ardal ar hyd ei oes, fod y cysylltiad gyda'r canolbarth yn deillio o goed lleol.
"Dywedon nhw wrthon ni pan oedden ni yn yr ysgol, a dyma'r stori dw i wedi clywed ar hyd fy oes, bod Admiral Rodney wedi prynu pren o goed derw o fryniau'r Breiddin ar gyfer ei longau.
"Dw i'n meddwl bod bonheddwyr Maldwyn wedi gwneud tipyn o arian o'r Admiral Rodney, ac roedden nhw am ddweud diolch wrth godi'r gofeb iddo fe."
Ac fel y gwnaeth pobl yr ardal ganrifoedd yn ôl mae trigolion presennol Sir Drefaldwyn am gadw'r cof am yr Admiral Rodney yn fyw drwy sicrhau y bydd y gofeb yn dal i sefyll am flynyddoedd eto.
Maen nhw'n gobeithio sefydlu'r elusen yn swyddogol yn ystod yr wythnosau nesaf a dechrau'r casgliad.
Yn y cyfamser, maen nhw'n gofyn am gefnogaeth gan unrhyw un allai gyfrannu arbenigedd at eu hymdrechion i ddiogelu dyfodol Colofn Rodney.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd19 Awst 2017