'Cam yn nes' at adfer a diogelu Tŵr y Marcwis

  • Cyhoeddwyd
Tŵr y Marcwis

Mae'r ymddiriedolaeth elusennol sy'n gyfrifol am safle un o atyniadau amlycaf Ynys Môn wedi sicrhau arian gan y Loteri Genedlaethol at brosiect i'w adnewyddu.

Bu'n rhaid cau Tŵr y Marcwis - colofn restredig Gradd II ger Llanfairpwll - yn 2012 yn sgil pryderon fod y grisiau mewnol yn beryglus.

Mae'r Anglesey Column Trust yn gobeithio adfer y gofeb rhyfel Napoleonaidd "yn gyfangwbl fel ei bod yn ddiogel i bobl ddringo i'w frig unwaith eto".

Bydd grant cychwynnol o £59,800 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn galluogi'r ymddiriedolaeth i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ymgeisio am grant loteri llawn o £640,000 yn y dyfodol.

Fel rhan o'r prosiect mae yna fwriad i adnewyddu bwthyn wrth droed y Tŵr a fyddai'n cynnwys ystafell de, siop, gwybodaeth am dreftadaeth a phensaerniaeth y Tŵr a gofod ar gyfer gweithgareddau addysgiadol ac ymweliadau gan ysgolion.

Mae bwriad hefyd i "adeiladu platfform gwylio hygyrch fel bod modd i bawb fwynhau'r golygfeydd anhygoel sydd i'w cael diolch i leoliad godidog y Tŵr".

Bydd yr holl waith, medd yr elusen, yn sicrhau bod safle'r Tŵr "yn gynaliadwy yn y tymor hir".

Ymateb arbennig

Dywedodd Marcwis Môn eu bod wedi cael cefnogaeth "arbennig" ers i'r ymddiriedolaeth lansio ymgyrch yn 2017 i adnewyddu ac ailagor y Tŵr.

"Yr ymateb yr ydym yn ei gael ydi bod pobl eisiau gallu mwynhau safle'r Tŵr unwaith eto a bod yr hanes a threftadaeth sy'n gysylltiedig ag o yn bwysig iawn i bobl," meddai.

"Mae'n wych gwybod ein bod nawr gam yn nes at ddiogelu'r safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Cafodd y tŵr ei godi yn 1817 gydag arian trwy danysgrifiad cyhoeddus, yn dilyn cyfraniad Marcwis cyntaf Môn ym Mrwydr Waterloo.

Yn y degawdau ers hynny fe ddaeth yn atyniad twristaeth poblogaidd, ac roedd pobl yn cerdded 115 gris i'r brig er mwyn gweld golygfeydd panoramig o'r ynys, Eryri a Phen Llŷn.

Mae elusennau lleol hefyd wedi defnyddio'r tŵr ar gyfer gweithgareddau codi arian.